Gwnewch Addewid Doeth gyda PestSmart

 

 Mae addewid PestSmart yn cynnwys tri ymrwymiad syml y gallwch eu gwneud i leihau eich effaith ar bobl, dŵr, a bywyd gwyllt. Drwy ymrwymo i’r addewid byddwch yn dod yn arddwr mwy cydwybodol ac yn ystyried sut mae’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud yn eich gardd yn gallu cael effaith ar y byd ehangach.

Drwy wneud Addewid Doeth gyda PestSmart, rwy’n ymrwymo i wneud y canlynol:

1.     Dysgu am wahanol ddulliau o reoli chwyn a phlâu a sut maen nhw’n effeithio ar fy amgylchedd lleol.

2.     Dewis opsiynau sy’n gwarchod pobl, dŵr a bywyd gwyllt.

3.     Rhannu beth rwy’n ei ddysgu, i annog pobl eraill i fod yn ddoeth gyda PestSmart.

Dysgu, dewis, a rhannu: Byddwch yn ddoeth gyda PestSmart.