Byddwch Ddoeth

Mae modd defnyddio plaleiddiaid i reoli plâu, boed rheini’n chwyn sy’n tyfu ar lwybr eich gardd neu’n wlithenni sy’n bwyta’ch planhigion. Ond pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio, eu storio neu eu gwaredu’n anghywir, gallan nhw fod yn niweidiol i bobl, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt. 

Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar blaleiddiaid, mae’n bwysig deall y peryglon cyn i chi ddechrau eu defnyddio, ac ystyried defnyddio cynnyrch amgen heb gemegion a mesurau ataliol yn eu lle.

 

Cyn i chi fynd ati i brynu plaleiddiad, mae’n werth ystyried a oes wir ei angen arnoch chi. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Lawrlwythwch ein ffeithlun ‘Byddwch Ddoeth’ i gael canllaw cyflym ar sut i ddefnyddio, storio a gwaredu plaladdwyr yn gywir, a chyngor ar ddewisiadau amgen i’w hystyried yn eu lle.