Chwe ffordd o gael gardd hardd heb ddefnyddio plaleiddiaid

Os yw’ch gardd yn llawn chwyn a bod angen ychydig o waith arni, mae’n bosib mai eich syniad cyntaf fyddai mynd i’r ganolfan arddio i brynu potel o blaleiddiad sydd wedi’i gymysgu’n barod. Er bod hwn yn ymddangos fel opsiwn hawdd i daclo chwyn, gall plaleiddiaid gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd a’n hiechyd os byddan nhw’n cael eu defnyddio’n plaleiddiaid. 

Beth am roi cynnig ar ddefnyddio dulliau ecogyfeillgar i ddechrau (a phob un yn defnyddio cynhwysion sy’n debygol iawn o fod gennych yn y tŷ yn barod) i weld os allwch chi gael gwared ar y chwyn heb ddefnyddio cemegion? 

Felly, os ydych chi am glirio chwyn o’ch patio neu atal pryfaid digroeso rhag bwyta’ch planhigion, dyma rai ryseitiau hawdd a allai eich helpu.

 

Chwyn, fel dant y llew a meillion, yn rai o'r tramgwyddwyr mwyaf cyffredin pan ddaw i ddifetha ymddangosiad ardd. Ond gellir rheoli chwyn gan ddefnyddio pethau sydd gennych chi eisoes yn eich cypyrddau.

 
Salt solution recipe-c01-01.jpg
  1. Hydoddiant halen

Mae halen yn ffordd effeithiol a rhad o ladd chwyn gan ei fod yn dadhydradu’r chwyn.

Cyfarwyddiadau:

  1. Toddwch un rhan o halen mewn wyth rhan o ddŵr poeth

    Gair i Gall: Gallwch gynyddu’r halen i hyd at un rhan o halen i dri rhan o ddŵr os nad ydych chi’n teimlo bod yr hydoddiant yn lladd y chwyn)

  2. Ychwanegwch ychydig bach o hylif golchi llestri er mwyn helpu’r hydoddiant i lynu at y dail

  3. Arllwyswch i botel chwistrellu

  4. Chwistrellwch yr hydoddiant yn uniongyrchol ar y chwyn er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’n niweidio planhigion eraill

  5. Unwaith y byddwch wedi chwistrellu’r hydoddiant halen, dyfriwch blanhigion cyfagos yn dda er mwyn golchi unrhyw hydoddiant i ffwrdd.

Vinegar solution recipe-c01-01.jpg

2. Hydoddiant finegr

Mae finegr yn chwynladdwr naturiol am ei fod yn asid asetig; po fwyaf fydd canran yr asid asetig y cryfaf fydd yr asid.

Cyfarwyddiadau:

  1. Ychwanegwch y finegr archfarchnad (asid asetig o 5%) i botel chwistrellu

  2. Chwistrellwch yr hylif mor agos â phosib at y chwyn a pheidiwch â gadael iddo ddod i gyswllt â glaswellt na phlanhigion eraill. Os bydd, dylech ddyfrio’r ardal honno’n dda.

 

Mae rhai pryfaid, fel gwenyn a gloÿnnod byw, yn fuddiol i ecosystem eich gardd, a gallai rhai plaleiddiaid achosi niwed iddyn nhw wrth i chi geisio daclo plâu digroeso eraill. Cyn defnyddio plaleiddiad, rhowch gynnig ar ddefnyddio hydoddiant symlach a chost-effeithiol:

 
Garlic spray recipe-c01-01.jpg

3. Chwistrelliad garlleg

Nid yw garlleg yn achosi niwed i bryfaid, ond mae’n achosi iddyn nhw gadw draw oherwydd yr arogl siarp, sy’n golygu na fyddan nhw’n bwyta neu’n dodwy wyau ar y planhigyn. 

Cyfarwyddiadau:

  1. Rhowch y ddau fwlb cyfan o arlleg mewn powlen a’u gwasgu

  2. Arllwyswch 120ml o ddŵr berwedig drostyn nhw, gorchuddiwch yr hylif a’i adael i sefyll dros nos

  3. Hidlwch yr hylif cyn ei roi mewn potel chwistrellu rhag i ddarnau o’r garlleg lenwi’r chwistrell

  4. Chwistrellwch y dail sydd ar waelod planhigion, blodau, ffrwythau neu lysiau – lle mae plâu yn hoff o ddodwy wyau – er mwyn cadw’r pryfed draw. Er mwyn parhau i rwystro’r pryfaid, dylech chwistrellu’r planhigion unwaith yr wythnos, ac os oes gennych bla dylech chwistrellu’n ddyddiol neu pan fyddwch yn gweld pla.

Gair I Gall: Ystyriwch roi gorchudd dros yr hylif garlleg neu roi’r hylif i sefyll dros nos mewn sied neu dŷ gwydr rhag llenwi’ch tŷ ag arogl garlleg y diwrnod canlynol.

Citrus peel recipe-c01-01.jpg

4. Croen ffrwythau sitrws 

Bydd gosod croen ffrwythau sitrws yn eich gardd yn ffordd o ddargyfeirio malwod a gwlithenni oddi wrth eich planhigion ac yn caniatáu i chi eu symud o’ch gardd.

Cyfarwyddiadau:

  1. Cadwch eich croen lemon, leim, oren a grawnffrwyth yn barod i’w gosod yn eich gardd

  2. Gwasgarwch y croen gyda’r ochr fewnol yn wynebu i fyny o amgylch eich gardd cyn iddi nosi

  3. Yn y bore, mae’n debygol y gwelwch chi fod cyfran fawr o boblogaeth malwod a gwlithenni’ch gardd wedi canfod y croen blasus

  4. Casglwch nhw a symudwch y malwod a’r gwlithenni ymhell o’ch gardd.

Eggshells recipe-c01-01.jpg

5. Plisg wyau

Os bydd gwlithenni’n ymlusgo ar ochrau miniog plisg wyau sydd wedi torri byddan nhw’n brifo, felly mae hon yn ffordd effeithiol o’u hatal rhag bwyta’ch planhigion. Mantais ychwanegol o ddefnyddio plisg wyau, yw y byddan nhw’n torri i lawr dros gyfnod o amser ac yn ychwanegu maeth i’r pridd.

Cyfarwyddiadau:

  1. Torrwch y plisg wyau yn ddarnau bach

  2. Taenwch nhw o amgylch eich planhigion neu ar ochr eich gwelyau blodau gydag ochrau miniog y plisg yn wynebu am i fyny.

Tomato leaf spray recipe-c01-01.jpg

6. Chwistrell dail tomato

Mae chwistrell wedi’i wneud â dail tomato yn effeithiol i ladd pryfed gleision (pryfed bach sy’n bwyta sudd planhigion) a gwiddon. Mae’n gweithio oherwydd yr alcaloidau yn y dail tomato.

Cyfarwyddiadau:

  1. Casglwch lond llaw o ddail planhigyn tomato

  2. Torrwch y dail â chyllell ac ychwanegwch 120ml o ddŵr

  3. Gadewch iddo sefyll dros nos

  4. Hidlwch y dail o’r dŵr gan ddefnyddio rhidyll mân

  5. Ychwanegwch 60ml neu 120ml o ddŵr (yn dibynnu ar faint eich potel) arall at yr hylif a’i arllwys i botel chwistrellu

  6. Chwistrellwch goesyn a dail y planhigyn llawn pla.

 

Pam dewis dulliau amgen i blaleiddiaid?

Nid yn unig mae’r ryseitiau yma’n hawdd i chi roi cynnig arnyn nhw, wnawn nhw ddim achosi niwed os byddan nhw’n cyrraedd nentydd ac afonydd. Mae dewis dulliau naturiol o reoli chwain a phlâu yn ffordd ymwybodol a rhagweithiol o leihau eich dibyniaeth ar chwynladdwyr a phryfleiddiaid. Ac yn y tymor hir, bydd yr amgylchedd yn ddiolchgar i chi hefyd. 

Sut aeth hi?

Gadewch i ni wybod sut aeth hi wrth i chi roi cynnig ar ddefnyddio’r dulliau amgen i blaleiddiaid, a rhannwch eich ryseitiau eich hun drwy ein tagio ni @DwrCymru ar Facebook, Twitter ac Instagram gyda’r hashnod #PestSmart.

* Nid yw defnyddio cemegion cartref fel plaleiddiad heb ei risg neu’n gyfreithiol bob amser. Dylech gyfeirio at wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i gael rhagor o wybodaeth.

Previous
Previous

Canllaw ar gael eich gardd yn barod ar gyfer yr haf