Canllaw ar gael eich gardd yn barod ar gyfer yr haf

Ar ôl gaeaf hir o law trwm, rhew a mymryn o eira, mae ein gofodau awyr agored – ein gerddi neu’n patios – yn aml yn galw am ychydig o ofal erbyn y gwanwyn. Wrth i’r tywydd cynhesach gyrraedd, daw rhagor o chwyn hefyd, gan ffynnu wrth i’r tymheredd godi. Gan ein bod ni’n treulio mwy o amser gartref nag erioed o'r blaen, dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd i dacluso'ch gardd neu'ch buarth fel ei fod yn barod am haf poeth a hir (gobeithio) o farbeciws a hamddena yn yr awyr agored. Dilynwch y camau hawdd yn y canllaw yma er mwyn twtio'ch gardd gan ddefnyddio dulliau amgen yn lle plaladdwyr, gan wneud yn fawr o holl fanteision iechyd garddio ar yr un pryd.

Allotment Rectangle AW.jpg
  1. Paratoi’r lawnt

Yn dilyn eithafion tywydd y gaeaf, efallai y gwelwch chi erbyn y gwanwyn fod brwgaets ar hyd yr ardd – mae’n bosib y bydd popeth o ddeiliach i frigau a changhennau wedi ymsefydlu ar y glaswellt. Cribiniwch y glaswellt i gael gwared ar unrhyw frwgaets cyn torri'r gwair i roi ail fywyd iddo. Fe allech chi hyd yn oed gynnwys eich plant yn y gwaith, fel her i'w cadw'n brysur ac i sicrhau eu bod yn cael ychydig o awyr iach. Cofiwch, does dim angen i chi daflu'r brwgaets gyda'ch gwastraff gardd os ydych chi'n bwriadu gwneud compost tomwellt rywbryd yn ystod y gwanwyn neu'r haf. Bydd brwgaets yn gwneud tomwellt perffaith, sy'n wych ar gyfer leinio gwelyau blodau er mwyn atal chwyn cyn plannu.

Pulling weeds sq2.png

2. Tynnu chwyn ar y lawnt

Ar ôl i chi dorri'r lawnt, efallai y gwelwch chi fod rhai o'r chwyn wedi'u torri gyda'r glaswellt. Mae chwyn lawnt cyffredin fel dant y llew a llygad y dydd yn ddigon hawdd eu tynnu o'r glaswellt os hoffech chi, ond fydd ambell un yma ac acw ar y lawnt ddim yn gwneud llawer o ddrwg chwaith, felly mae’n bosib y byddwch chi'n dewis eu gadael. Fodd bynnag, mae chwyn fel ysgall sydd â phigau yn gallu brifo os bydd rhywun yn cerdded yn droednoeth, felly mae'n ddoeth cael gwared ar y rhain os oes gennych blant bach sy'n hoffi chwarae yn yr ardd. Defnyddiwch drywel neu declyn pigfain fel sgriwdreifer i fynd at y gwraidd cyn tynnu’r chwyn yn gyfan o'r ddaear. Os bydd hyn yn gadael twll yn y glaswellt, llenwch y twll gyda phridd a gwasgarwch ychydig o hadau lawnt eco ar ei ben i gael y glaswellt i dyfu eto. Dyma gyfle gwych i fwynhau'r awyr iach a bod y tu allan wrth i chi drin y lawnt.

Patio Weeds Rectangle AW.jpg

3. Tynnu chwyn o’r patio

Wrth i'r tywydd gynhesu, byddwch chi'n sylwi ar fwy a mwy o chwyn yn codi rhwng y slabiau ar eich patio. Er eu bod yn edrych braidd yn hyll a bod cael gwared arnyn nhw’n teimlo fel gwaith diflas, yr allwedd, fel gyda’r lawnt, yw cadw ar eu pennau. Tynnu un chwynnyn rydych chi newydd ei weld a'i dargedu’n gynnar yw'r ffordd fwyaf effeithiol, gan roi llai o amser i'r gwreiddyn dyfu. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld bod y broses drefnus yma’n gweithio fel rhyw fath o feddwlgarwch. Ymhlith y ffyrdd effeithiol o dynnu'r chwyn mae defnyddio siswrn tocio i'w torri neu brynu brwsh chwyn patio penodol gyda blew caled siâp V sy'n casglu chwyn o’r craciau bach rhwng slabiau. Mae’r rhain ar gael am lai na £10. Ac maen nhw’n dweud bod arllwys dŵr berwedig lle roedd y chwyn yn ffordd effeithiol o ladd unrhyw wreiddyn sy'n weddill o dan y patio.

Watering Can_Pesticide Rectangle AW.jpg

4. Gweddnewid y gofod

Os ydych chi'n bwriadu treulio llawer o amser yn eistedd yn yr ardd dros yr haf (os bydd y tywydd yn caniatáu), bydd ychwanegu bywyd i'r lle ar ffurf potiau neu welyau blodau yn creu amgylchedd delfrydol sy’n frith o liwiau. Os oes gennych wely blodau neu os byddwch yn penderfynu buddsoddi mewn un, defnyddiwch y tomwellt rydych wedi’i greu o frwgaets y lawnt i leinio'r gwely cyn plannu. Mae hwn yn ddull da ar gyfer atal chwyn hefyd. Os nad ydych yn gallu gwneud eich tomwellt eich hunan, gallwch ei brynu o ganolfan arddio. Mae cymaint o fuddion o adael rhai rhannau o'r ardd heb eu trin er mwyn creu eco-systemau bach. Bydd gadael i natur ailfeddiannu’r ardd yn annog ysglyfaethwyr naturiol sy’n gallu helpu i reoli plâu. 

Gair i gall:

  1. Bydd tynnu chwyn cyn gynted ag y gwelwch chi nhw, hyd yn oed yn ystod y gaeaf, yn eich helpu i gadw ar eu pennau ac yn osgoi creu tasg fwy i chi pan ddaw’r gwanwyn.

2. Gallwch wneud tomwellt o dorion glaswellt, dail, gwair, gwellt, rhisgl neu naddion pren, darnau o bapur newydd, cardfwrdd a thail anifeiliaid.

3. Defnyddiwch ddulliau naturiol o daclo chwyn, fel arllwys dŵr berwedig ar y gwreiddyn.

Previous
Previous

Sut i storio plaleiddiaid yn gywir

Next
Next

Chwe ffordd o gael gardd hardd heb ddefnyddio plaleiddiaid