Blogiad gwadd: Mae 41% o rywogaethau pryfed yn diflannu, ond allwch chi helpu i newid hyn?

Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Rachel Sharp, sy’n esbonio pam mae’n annog garddwyr i roi diwedd ar ddefnyddio plaladdwyr fel rhan o’r ymgyrch Gweithredu dros Bryfed.

Yr hyn nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli yw bod pryfed yn gwbl hanfodol i’n byd. Er mai gwenyn a gloÿnnod byw sy’n cael y mwyaf o sylw, mae nifer o bryfed eraill sy’n chwarae eu rhan yn dawel bach i gefnogi ecosystemau. Mae’r rhain yn cynnwys gwyfynod, sy’n peillio’r ardd nos; gwenyn meirch parasitig, sy’n cadw amrywiaeth o blâu dan reolaeth; a buchod coch cwta ac adenydd siderog, y mae’r ddau ohonyn nhw’n bwydo ar bryfed gleision sy’n ein helpu i dyfu blodau a llysiau.

Mae’r rhan fwyaf o bryfed yn gwneud amrywiaeth o dasgau hanfodol fel peillio, awyru’r pridd a thorri anifeiliaid marw i lawr i’w dychwelyd i’r ddaear. Mewn gwirionedd, mae angen i dri chwarter yr holl fathau o gnydau sy’n cael eu tyfu gan fodau dynol gael eu peillio gan bryfed. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel sylfaen y gadwyn fwyd, ac yn ffynhonnell bwyd i lawer o ymwelwyr poblogaidd â’n gerddi, gan gynnwys y robin goch a draenogod. Felly, os ydyn ni am oroesi a chadw ein gerddi’n iach, mae angen i bryfed ffynnu.

Ac eto, yng ngwledydd Prydain, nid yn unig mae ein poblogaethau o bryfed wedi profi dirywiad syfrdanol, mae 41% o’r pum miliwn o rywogaethau pryfed sy’n weddill ar y ddaear yn diflannu. Yn fyd-eang, mae llawer o bethau’n cyfrannu at y dirywiad yma, gan gynnwys ffermio dwys, trefoli, rhywogaethau newydd yn cael eu cyflwyno, a newid hinsawdd. Er y gallai llawer o hyn ymddangos allan o’ch rheolaeth, gallwch wneud mwy na rydych yn sylweddoli i helpu’r poblogaethau pryfed yn eich cymuned.

Yn yr Ymddiriedolaethau Natur, un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n annog pobl i ofalu am bryfed yw garddio heb gemegau. Mae plaladdwyr a chemegau niweidiol eraill wedi’u cynllunio i ladd ystod eang o organebau gan gynnwys pryfed a phlanhigion. Mae chwynladdwyr a phryfleiddiaid ar gael yn hawdd i’w prynu ond maen nhw’n gallu niweidio pryfed a dinistrio’r cynefin maen nhw’n ddibynnol arno. Mae’n ddychrynllyd bod hyd yn oed archfarchnadoedd wedi dechrau gwerthu’r mathau yma o gemegau. Meddyliwch am y peth, mae’r cemegau yma’n cael eu rhoi yn ein trolïau siopa drws nesaf i swper heno neu lysiau ffres. Dydy hi ddim yn anodd dod o hyd i ddewisiadau amgen, gall newidiadau bach gael effaith fawr. Dyma rai pethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i wneud gwahaniaeth.

Mae angen rhoi ychydig mwy o feddwl a chynllunio i dyfu heb gemegau, ond mae modd dod o hyd i gydbwysedd da rhwng ysglyfaethwr ac ysglyfaeth. Er enghraifft, anghofiwch am gynnyrch cemegol, ac yn lle hynny dewiswch rwystr o risgl bras neu raean miniog o amgylch gwelyau llysiau neu flodau sy’n helpu i atal gwlithod a malwod. Gallwch rannu’ch ardal dyfu â bywyd gwyllt hyd yn oed drwy gynnig lloches a bwyd i ddraenogod, brogaod, adar a mamaliaid bach eraill a fydd yn bwyta’r gwlithod a’r malwod beth bynnag.

Er mwyn helpu pryfed i ffynnu mae angen i chi greu llefydd lle gallan nhw fyw, bwydo a bridio drwy gydol y flwyddyn. Mewn rhai achosion, gallai hyn arbed gwaith ychwanegol i chi. Ar wahanol gyfnodau yn eu cylch bywyd, mae angen gwahanol blanhigion ac ardaloedd i gysgodi ar bryfed, felly gallai hyd yn oed y planhigyn marw hwnnw sy’n ddolur llygad yn eich barn chi fod yn gartref i bryfyn. Pan fyddwch chi’n mynd ati i dacluso boncyffion, glaswellt sych neu hen goesynnau planhigion, peidiwch â thorri’n ôl yn ddiangen gan eu bod yn wych i bryfed sy’n gaeafgysgu. Bydd hyd yn oed caniatáu i rywfaint o’ch glaswellt dyfu’n hirach neu, lle bo hynny’n bosib, cadw craciau mewn waliau yn darparu cysgod i bryfed – gall fod mor syml â hynny.  

Ar gyfer y garddwr brwd, mae cymaint o bethau y gallwch eu gwneud i helpu pryfed a gwneud eich gardd yn hardd ar yr un pryd. Fy awgrym i – dewiswch flodau a llwyni y gall pryfed fwydo arnyn nhw drwy gydol y flwyddyn. Dylid dewis blodau sy’n llawn paill gan gynnwys clychau’r gog, briallu a lilis bach gwynion yn y gwanwyn, lafant a mintys yn yr haf, a choed mêl a iorwg yn yr hydref. Gall y planhigion yma a llawer o rai eraill ddarparu ffynhonnell hanfodol o baill a neithdar i bryfed.

Hyd yn oed os nad oes gennych ardd, gallwch barhau i weithredu dros bryfed drwy gadw planhigion mewn potiau ar falconïau neu silffoedd ffenestri i ddarparu neithdar neu baill angenrheidiol. Cofiwch osod eich potiau yn yr ardal sydd â’r mwyaf o olau naturiol er mwyn iddyn nhw flodeuo ac os nad ydych chi’n cael llawer o heulwen, dewiswch blanhigion sy’n hoff o’r cysgod yn eu lle.

Does dim rhaid i chi fynd yr holl ffordd na gwneud y cyfan ar unwaith! Bydd ymrwymo i un weithred fach heddiw yn helpu i wneud gwahaniaeth enfawr. Pan fyddwch chi allan yn yr awyr agored nesaf ac yn sylwi ar bryfyn sy’n edrych yn od neu’n ddychrynllyd, peidiwch â bod ei ofn. Mae mwy na thebyg yn dda i’ch gardd, neu bydd o leiaf yn darparu cynhaliaeth i fywyd gwyllt.

Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddod â phryfed yn ôl yn ein barn ni, ond mae angen i ni weithredu’n gyflym. Felly, mae ymgyrch Gweithredu dros Bryfed yr Ymddiriedolaethau Natur am wyrdroi’r dirywiad brawychus mewn pryfed a helpu natur i adfer ledled Prydain. Mae pryfed yn rhan annatod o oroesiad ein planed, felly rydyn ni am i bawb weithredu dros bryfed. Mae camau hawdd y gallwch eu cymryd i droi eich cartref a’ch gardd yn hafan sy’n gyfeillgar i bryfed.

 

https://www.wildlifetrusts.org/action-for-insects

Previous
Previous

Sut i greu cornel bywyd gwyllt er mwyn helpu i reoli plâu yn eich gardd

Next
Next

Blogiad gwadd: Sut mae’r sector amwynder yn helpu i gadw ein hamgylchedd yn rhydd o chwyn a phlâu yn ddiogel