Blogiad gwadd: Sut mae’r sector amwynder yn helpu i gadw ein hamgylchedd yn rhydd o chwyn a phlâu yn ddiogel

Yr Athro John Moverley OBE, Cadeirydd Annibynnol y Fforwm Mwynderau, sy’n egluro sut caiff chwyn ei reoli mewn mannau cyhoeddus.

Efallai eich bod chi’n meddwl bod chwyn a phlâu yn bethau sy’n rhwystro eich gwelyau blodau rhag edrych yn berffaith, ond maen nhw hefyd yn effeithio ar lawer o bethau yn ein bywydau o ddydd i ddydd nad ydych chi’n sylweddoli hynny. P’un a ydych chi’n ymweld â pharc, yn chwarae golff, neu’n gwneud taith ar drên, byddai’r llefydd hyn yn edrych yn wahanol iawn heb reoli amwynderau.

 

Mae amwynder yn sector sy’n sicrhau bod ffyrdd, cledrau, strydoedd, parciau a meysydd chwaraeon yn cael eu cynnal fel bod chwyn, plâu a chlefydau yn cael eu rheoli, gan greu ardaloedd amwynder diogel ac iach. Mae’r Fforwm Amwynderau yn hyrwyddo’r arferion gorau o reoli chwyn, plâu a chlefydau yn y sector i sicrhau bod y bobl sy’n rheoli ac yn cynhyrchu’r pethau yma yn gwneud hynny yn y ffordd orau i amddiffyn ein hamgylchedd. Dros y blynyddoedd, mae’r sector wedi newid beth mae’n ei ddefnyddio i reoli plâu a chwyn er mwyn helpu i leihau ein heffaith ar y byd o’n cwmpas.

 

Fel garddwr brwd gyda rhandir, rwy’n deall pam y byddai rhai pobl am ddefnyddio plaladdwyr neu wenwyn malwod i’w cadw draw. Mae’n ddatrysiad hawdd sy’n mynd i’r afael â’r broblem ac yn amddiffyn eich planhigion. Ond mae’n rhaid eu defnyddio mewn ffordd bwyllog, diogel a phriodol.

Dyma’r dull rydyn ni’n ei ddefnyddio yn y Fforwm Amwynderau wrth reoli llefydd cyhoeddus. Er enghraifft, er mwyn cadw rheolaeth ar 52,000 hectar o drac rheilffordd ledled Prydain, rydyn ni wedi gallu ymgorffori’r dechnoleg is-goch ddiweddaraf lle gall trên sy’n chwistrellu dargedu’r chwyn yn y cledrau a’r cyffiniau agos â chemegau. Mae hyn yn sicrhau’r dull mwyaf effeithlon ac effeithiol, gan leihau defnydd cemegol a chynhyrchu rhwydwaith rheilffyrdd diogel, iach ac addas at y diben. 

 

Felly, beth am y 27,000 o barciau ym Mhrydain? Heb y sector amwynder a cheidwaid parciau sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ein parciau a’n mannau gwyrdd, byddai chwyn yn drech na’n parciau. Lle mae angen defnyddio cemegau i reoli plâu a chwyn, mae ceidwaid parciau yn eu defnyddio gan ddilyn safonau’r diwydiant, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n effeithio ar y bobl sy’n defnyddio’r parciau, a bywyd gwyllt sy’n byw yn y mannau gwyrdd. Mae hyn yn golygu bod parciau yn gallu cynnig rhywle i ni dreulio amser yn yr awyr agored a rhoi hwb i iechyd meddwl.

 

Er mai dim ond cipolwg yw hwn ar sut mae’r sector amwynder yn rheoli mannau cyhoeddus, fe wnaethom ni ddechrau gwefan GetMoving i hyrwyddo’r defnydd cywir o blaladdwyr i’r cyhoedd a helpu pobl i ddeall y sector amwynder yn well. Cafodd y wefan ei lansio tua pedair blynedd yn ôl ac mae’n llawn gwybodaeth i dynnu sylw at rôl y sector amwynder. Mae llawer o bobl yn dal i gymryd yn ganiataol y bydd gwasanaethau trenau a bysiau yn rhedeg, y bydd palmentydd yn cael eu glanhau, ac y bydd caeau chwaraeon o safon uchel, ond fyddai hyn ddim yn digwydd heb amwynder. Drwy ddatblygu GetMoving rydyn ni’n gobeithio codi rhagor o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r sector, pam ei fod yn bwysig a sut gall pob un ohonon ni chwarae ein rhan.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm Amwynderau, ewch i’r wefan www.amenityforum.co.uk

 

Ynglŷn â'r awdur

Arbenigwr garddio 28 oed yw Adam, sy’n angerddol am dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth ei ardd, sydd hefyd yn cynyddu cynhyrchiant ei ardd yn ei dro. Mae Adam yn wyneb cyfarwydd ar raglen gylchgrawn Prynhawn Da ac mae ganddo slot garddio ar BBC Radio Cymru 2. Mae rhagor o wybodaeth am waith Adam ar gael ar ei wefan www.adamynyrardd.cymru neu drwy ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol @adamynyrardd.

Previous
Previous

Blogiad gwadd: Mae 41% o rywogaethau pryfed yn diflannu, ond allwch chi helpu i newid hyn?

Next
Next

Blogiad gwadd: Pam mae’r garddwr profiadol Adam Jones o @adamynyrardd yn hyrwyddo garddio organig i frwydro yn erbyn plâu