Cyd-blannu: Pedair ffordd o arddio’n ddoeth i atal plâu

Un o'r tactegau mae garddwyr yn eu defnyddio i fynd i'r afael â phlâu yn yr ardd heb ddefnyddio plaladdwyr yw cyd-blannu. Mae cyd-blannu yn golygu gosod dau blanhigyn gwahanol wrth ymyl ei gilydd er budd y ddau, er enghraifft denu peillwyr neu atal plâu rhag cyrraedd eich planhigion neu lysiau.

Tra bod plaladdwyr yn ddatrysiad dros dro sy’n gallu niweidio'ch planhigion yn hawdd os cânt eu camddefnyddio, mae cyd-blannu yn gallu bod yn ateb hirdymor. Gydag ychydig o waith cynllunio, a chymorth y canllaw yma, byddwch yn dysgu sut i gyd-blannu’n effeithiol i gadw plâu o dan reolaeth.

 

1. Drysu plâu drwy guddio arogl eich llysiau

Mae plâu yn sensitif i arogleuon penodol, felly gall plannu’r planhigyn cywir helpu i'w cadw draw o'r planhigyn neu'r llysieuyn rydych chi'n ceisio ei amddiffyn. Er enghraifft, mae Gold Ffrainc yn wych i gadw pryfed gwyn a phryfed gleision oddi wrth domatos neu ffa. Mae planhigion o deulu'r allium, fel garlleg, winwns, cennin syfi a chennin yn berffaith ar gyfer atal pryfed moron. Bydd perlysiau fel saets yn gweithio'n effeithiol o amgylch unrhyw beth yn y teulu brassica, fel bresych ac ysgewyll.

2. Annog ysglyfaethwyr naturiol

Mae adar, brogaod a phryfed eraill yn ysglyfaethwyr naturiol a fydd yn bwyta plâu cyffredin. Bydd coriander a phersli yn denu buchod coch cwta sydd wrth eu bodd â phryfed gleision. Mae milddail, dil, a gold nid yn unig yn denu buchod coch cwta ond hefyd pryfed hofran, adenydd siderog, a gwenyn meirch parasitig sydd hefyd yn ysglyfaethwyr i'r pryfed gleision dinistriol. Mae lafant yn wych gan ei fod yn denu peillwyr ac mae'r arogl yn atal plâu fel gwlithod a lindys gwyfynod..

3. Planhigion ar gyfer y plâu

Cadwch blâu i ffwrdd o'ch planhigion a'ch llysiau drwy ddarparu ffynonellau bwyd amgen ar eu cyfer gerllaw. Gellir defnyddio capanau cornicyll i ddenu llu o blâu fel pryfed duon a’r gwyn bach. Bydd planhigion Gold Ffrainc yn denu gwlithod a malwod tuag atynt ac i ffwrdd oddi wrth eich letys. Gall plannu basil ger planhigion tomato a chiwcymbr fod yn amddiffyniad gwerthfawr rhag pryfed gleision.

4. Cadw chwyn o dan reolaeth

Gall chwyn ddwyn maetholion gwerthfawr o blanhigion a gallan nhw ladd eu gwreiddiau. Gall cyd-blannu helpu i reoli faint o chwyn sy’n tyfu drwy lenwi lle a fyddai fel arall yn cael ei ddwyn gan y chwyn diangen. Mae'r dull cyd-blannu yn wych ar gyfer atal tyfiant chwyn a gwneud defnydd o unrhyw wagle lle gall chwyn fod yn aros yn eiddgar.

Previous
Previous

Plâu gardd a chlefydau planhigion cyffredin a sut i’w hadnabod

Next
Next

Sut i greu cornel bywyd gwyllt er mwyn helpu i reoli plâu yn eich gardd