Plâu gardd a chlefydau planhigion cyffredin a sut i’w hadnabod

Mae pob garddwr yn siŵr o ddod ar draws sawl pla a chlefyd planhigion. Bydd gallu adnabod y rhain yn sicrhau bod modd i chi dargedu’r broblem yn effeithiol. Nod y canllaw defnyddiol yma yw eich helpu i adnabod arwyddion plâu gardd a chlefydau planhigion cyffredin, ac atebion naturiol gallwch roi cynnig arnyn nhw i’w taclo.

 

Pryfed gleision a phryfed duon

Gwybodaeth: Plâu bach sy’n sugno suddion ac sydd fel arfer yn wyrdd, yn ddu neu’n wyn. Maen nhw’n dueddol o fwydo mewn grwpiau mawr o dan ddail neu goesynnau.

Arwyddion: Dail yn melynu, yn cyrlio neu’n crebachu, o bosib wedi’u gorchuddio mewn sylwedd gludiog (melwlith).

Atebion Naturiol: Anogwch ysglyfaethwyr naturiol fel buchod coch cwta a phryfed hofran, neu rhowch gynnig ar chwistrellau gardd wedi’u creu gartref o finegr a garlleg.

Gwlithod a Malwod

Gwybodaeth: Dyma’r ddau bla gardd mwyaf cyffredin y dewch chi ar eu traws, ac maen nhw fel arfer yn bwydo gyda’r nos yn ystod adegau cynnes a llaith.

Arwyddion: Llwybrau llysnafedd wedi’u gadael ar eu hôl a thyllau crwn mewn coesynnau, dail a blodau planhigion.

Atebion Naturiol: Defnyddiwch groen ffrwythau sitrws neu blisgyn wy wedi’i falu o gwmpas eich planhigion, neu anogwch ysglyfaethwyr naturiol i’ch gardd fel adar neu frogaod.

Lindys

Gwybodaeth: Larfa yw lindys sy’n aros i gael ei droi’n wyfyn neu’n löyn byw, ac maen nhw’n hoff iawn o fwyta.

Arwyddion: Tyllau mawr bras drwy ddail neu ar ymyl deilen; bydd rhai’n difrodi’r gwreiddiau, yr egin a’r blodau, tra bydd eraill yn creu twneli i mewn i ffrwythau neu lysiau.

Ateb Naturiol: Plannwch blanhigion persawrus fel lafant, saets, mintys poeth a’r feidiog lwyd i helpu i atal lindys.

Ffwng smotiau duon

Gwybodaeth: Ar rosod mae ffwng smotiau duon yn effeithio yn bennaf, ond gall y clefyd yma ymosod ar unrhyw blanhigyn sydd â choesynnau a dail cigog.

Arwyddion:  Mae’n dechrau gyda smotiau bach du neu borffor, ac yn y pen draw gall achosi i’r ddeilen gyfan droi’n felyn a marw.

Atebion Naturiol: Tynnwch unrhyw ddeunyddiau planhigion yr effeithiwyd arnynt er mwyn atal haint ac addaswch eich trefn ddyfrio fel nad yw’ch planhigion yn rhy wlyb.

Llwydni powdrog

Gwybodaeth: Clefyd ffwng ar blanhigion sy’n effeithio ar ddail, coesynnau a weithiau blodau a ffrwythau. Mae’n eithaf hawdd adnabod y clefyd yma gan fod yr arwyddion yn unigryw iawn.

Arwyddion: Darnau gwyn a phowdrog o ffwng ar wyneb uchaf neu isaf y dail, blodau neu ffrwyth, a all orchuddio’r planhigyn cyfan yn y pen draw.

Atebion Naturiol: Tynnwch unrhyw ran o’r planhigyn yr effeithiwyd arno er mwyn lleihau’r siawns o haint bellach, neu defnyddiwch chwistrell garlleg. Er mwyn ei atal rhag datblygu, plannwch mewn pridd sy’n draenio’n dda, gan ganiatáu digon o olau haul a chylchrediad aer o amgylch y planhigyn.

Edefyn Coch

Gwybodaeth: Clefyd ffwngaidd sy’n effeithio ar lawntiau, ac mae’n digwydd fel arfer ar ddiwedd yr haf a dechrau’r hydref pan fydd y tywydd yn wlyb. Dyma un o achosion mwyaf cyffredin darnau marw ar dywarchen.

Arwyddion: Mae gan ddarnau o laswellt yr effeithiwyd arnynt arlliw cochlyd sydd nes ymlaen yn dod yn frown golau neu bron wedi’i gannu’n wyn.

Ateb Naturiol: Rhowch nitrogen ar ddarnau o’r lawnt yr effeithiwyd arnynt. Er mwyn atal y clefyd yma rhag ymddangos, gwnewch yn siŵr fod y glaswellt yn gallu draenio a chael ei awyru’n ddigonol. Bydd defnyddio rhaca lawnt yn helpu i gael gwared â mwsogl a gwellt, ac yn cynyddu awyru.

Cyngor Doeth:

  • Dylech bob amser dynnu a gwaredu dail, ffrwythau a blodau yr effeithiwyd arnynt, er mwyn atal haint rhag lledaenu at blanhigion eraill.

  • Gall fod yn anodd gweld plâu, yn enwedig os yw’r difrod yn digwydd gyda’r nos, felly edrychwch am arwyddion allanol i helpu i nodi pa blâu yw achos unrhyw broblem. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am yr ateb addas.

  • Monitrwch sut mae eich planhigion, llysiau neu flodau yn ymateb i ddyfrio neu driniaethau. Drwy wneud hyn, bydd modd i chi deilwra’ch trefn yn briodol i weld beth sy’n gweithio orau ar gyfer eich planhigion ac atal clefydau.

  • Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o glefyd neu bla sy’n effeithio ar eich gardd, mae gwefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn rhoi arweiniad ar atebion naturiol i oresgyn ystod o broblemau nad ydyn nhw’n effeithio ar ddŵr, bywyd gwyllt na phobl.

 
Previous
Previous

Deall y wybodaeth ar botel a label plaladdwr: canllaw cam wrth gam

Next
Next

Cyd-blannu: Pedair ffordd o arddio’n ddoeth i atal plâu