A yw triniaethau gwenwynig lladd chwain eich anifeiliaid anwes yn difrodi afonydd Cymru?

John Burns, llawfeddyg milfeddygol a sylfaenydd cwmni Burns Pet Nutrition, sy’n esbonio pam mae’n gwneud safiad yn erbyn pryfleiddiaid er mwyn gwarchod ein hecosystemau ffyniannus a chynaliadwy. 

 
John Burns & furry pal, Lizzie.

John Burns & furry pal, Lizzie.

Mae pawb sy’n berchen ar anifail anwes yn gwybod bod chwain yn gallu bod yn annymunol iawn i bawb yn y tŷ. Mae llawer o berchnogion yn dewis defnyddio triniaethau lladd chwain ar eu cŵn neu gathod yn fisol er mwyn ceisio osgoi pla. Fodd bynnag, nid llawer o bobl sy’n gwybod nad yw’r driniaeth lladd chwain reolaidd yma’n angenrheidiol a gallai fod yn achosi difrod i’n hafonydd, ein nentydd a’n bywyd gwyllt.

afodd fipronal ac imidacloprid, sef y cynhwysion gweithredol mewn triniaethau lladd chwain ar gyfer cŵn a chathod, eu gwahardd rhag cael eu defnyddio gan y diwydiant amaeth yn 2017 a 2018 oherwydd effaith wenwynig y cemegion ar wenyn a phryfaid eraill.  

Ac eto, mae llawer ohonon ni’n synnu bod y cynhwysion yma’n cael eu defnyddio’n rheolaidd yn ein cartrefi ar hyd at 80% o’r 10 miliwn o gŵn ac 11 miliwn o gathod sy’n byw ym Mhrydain. Yn fwy pryderus fyth, mae ymchwil diweddar wedi canfod y cynhwysyn fipronal mewn 99% o’r samplau a gymerwyd o afonydd yn yr astudiaeth. Mae gwyddonwyr o’r farn fod y plaleiddiaid yma’n cyrraedd y dŵr pan fydd anifeiliaid anwes yn cael eu golchi gartref, neu’n nofio mewn afonydd. Dull poblogaidd arall o drin chwain yw coleri atal chwain, sef coleri sy’n rhyddhau cemegyn sy’n ymdoddi ac yn lledaenu drwy groen yr anifail i ladd chwain ar unrhyw ran o’r corff. Os yw’r anifail yn nofio mewn afon, bydd y goler a’r anifail yn rhyddhau’r cemegion yma i’r afon. 

PestSmart Illustration BLUE BG RGB.jpg

Beth yw’r ots am hynny? Mae ein nentydd a’n hafonydd yn gartref i bryfaid dyfrol, sy’n hanfodol i greu ecosystemau iach, ffyniannus a chynaliadwy. Maen nhw’n fwyd i bysgod, amffibiaid, a bywyd gwyllt arall, ac yn helpu i buro’r dŵr. Mae llawer o bobl eisoes yn ymwybodol o bwysigrwydd gwenyn am resymau ecolegol tebyg. Heb bryfaid yn ein hafonydd, byddai ein hecosystem yn dymchwel yn y pen draw. 

Er mwyn rhoi hynny mewn cyd-destun – amcangyfrifir bod un driniaeth lladd chwain sy’n cynnwys imidacloprid ar gi maint canolig yn cynnwys digon o blaleiddiaid i ladd 60 miliwn o wenyn. Felly gallwch weld faint o ddifrod i fywyd pryfetach mae’r llygredd yma o nentydd ac afonydd yn ei achosi. 


Yn Burns Pet Nutrition rydyn ni’n lwcus ein bod wedi ein lleoli mewn rhan mor hardd o Gymru. Mae’r ardal o’n hamgylch yn llawn cynefinoedd bywyd gwyllt ac o ffenestri ein swyddfeydd, gallwn weld aber ac afon, coedwigoedd, tir ffermio a gwlyptiroedd. Rydyn ni’n frwd dros ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd, ac yn ymdrechu i weithio mewn ffordd sydd mor gynaliadwy â phosib, yn ogystal â hyrwyddo dull naturiol o sicrhau maetheg anifeiliaid anwes.

Fel rhywun sy’n hoff o anifeiliaid anwes, yn berchennog busnes ac yn filfeddyg, bydden i’n dadlau ei bod yn bryd i ni stopio defnyddio’r triniaethau lladd chwain rheolaidd yma ac i ryddhau ein hunain a’n dŵr o’r cemegion gwenwynig yma. Gofynnwch i’ch hunan, a oes wir angen defnyddio triniaeth o’r fath yn rheolaidd, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf? Fel sy’n wir gyda’r rhan fwyaf o feddyginiaethau, dylen nhw ond gael eu defnyddio fel triniaeth, nid fel ataliad.  Dim ond pan fydd gan yr anifail anwes bla o chwain a throgod dylid eu defnyddio mewn gwirionedd, a phan fyddwch chi’n dilyn y cyfarwyddiadau’n llawn.  Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn broblem yn ystod misoedd cynhesach yr haf ac nid yw’n angenrheidiol o gwbl yn ystod y gaeaf pan nad yw chwain yn gymaint o broblem.  Un eithriad i hyn yw pan fydd gan anifail anwes alergedd i gnoad chwain ac yn gallu datblygu adwaith annymunol iawn iddo. Gallai alergedd fod yn gyfiawnhad dros ddefnyddio meddyginiaeth o dro i dro, ond nid yw alergedd yn gyffredin iawn a dylid cyfyngu ar hyn i bresgripsiwn gan filfeddyg yn unig. 

Garden Rectangle AW.jpg

Y broblem fawr yw nad oes angen presgripsiwn gan filfeddyg ar gyfer y triniaethau yma.  Mae gwaith rheoleiddio a defnydd o driniaethau o’r fath wedi’u rheoli gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.  Pan gafodd y triniaethau yma eu cyflwyno am y tro cyntaf, nid oedd pobl yn credu y byddai defnydd sylweddol ohonyn nhw, felly ni chafodd rheolaethau eu gosod arnyn nhw mewn gwirionedd.  Yn fy marn i, mae’n rhaid i hyn newid, ac mae angen i’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol weithredu er mwyn newid trwydded y cynnyrch er mwyn cyfyngu ar y defnydd rheolaidd ohono fel pryfleiddiaid i feddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig.  Nid yw’r sefyllfa wedi’i helpu gan y ffaith fod rhai, ac o bosib llawer, o bractisau milfeddygol yn darparu gwerth blwyddyn o feddyginiaethau i’w cleientiaid fel rhan o becyn gofal blynyddol rheolaidd y codir tâl amdano. 

Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod llawer iawn o arian yn cael ei wastraffu gan berchnogion anifeiliaid anwes ar driniaethau diangen.  Mae hefyd yn golygu bod yr anifail anwes a’r cartref wedi’u gorchuddio mewn pryfleiddiaid yn barhaus. 

Ni fydd lleihau’r driniaeth yn golygu y bydd eich anifail anwes a’ch cartref yn llawn chwain o hyd. Roedd gen i gi defaid o’r enw Lizzie a fu’n fyw am 16 mlynedd, a dw i’n meddwl mai tair gwaith yn ei hoes y gwnes i roi triniaeth am chwain iddi. Os oes modd i ni osgoi trwytho ein teuluoedd, ein hanifeiliaid anwes a’n cartrefi yn y cemegion yma, bydd yn well ar ein lles ni i gyd. 

 

Ynglŷn â'r awdur:

Cyfeirnodau a darllen pellach: 

Llawfeddyg milfeddygol yw John Burns a sylfaenydd Burns Pet Nutrition, sef cwmni sy’n cynnig ystod o fwydydd naturiol o ansawdd uchel i anifeiliaid anwes. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghydweli, Sir Benfro. 

Previous
Previous

Tri pheth y dylech ei wybod am blaleiddiaid cyn eu prynu

Next
Next

Sut i storio plaleiddiaid yn gywir