Tri pheth y dylech ei wybod am blaleiddiaid cyn eu prynu

Yn gryno, sylweddau sy’n gallu cael eu defnyddio i reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion yw plaleiddiaid, boed rheini’n chwyn sy’n tyfu ar lwybr eich gardd, yn wlithenni sy’n bwyta’ch planhigion, neu’n smotiau du ar eich rhosod. Ond cyn i chi fynd ati i brynu plaleiddiad, mae’n werth ystyried a oes wir ei angen arnoch chi. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

 
  1. Beth alla i ei ddefnyddio yn lle plaleiddiad?

Cyn defnyddio plaleiddiad, ystyriwch bob amser a oes gennych broblem sydd angen ei thaclo gyda chemegion mewn gwirionedd, neu a oes modd gadael llonydd i’r planhigion dant y llew ar eich lawnt? Mae ffyrdd amgen o drin chwyn a phlâu yn yr ardd heb orfod defnyddio cemegion:

Alternative-Methods CYM FINAL.jpg
 

2. Pa blaleiddiad sydd ei angen arna i? 

Felly, rydych chi wedi penderfynu bod yn rhaid i chi ddefnyddio plaleiddiad, ond pa un sy’n iawn i chi?

What-Pesticide CYM FINAL.jpg
 

3. Beth yw'r peryglon?

Er bod rheolau llym ar gynhyrchu plaleiddiaid, gallan nhw dal fod yn niweidiol i bobl, i’r dŵr ac i fywyd gwyllt os byddan nhw’n cael eu defnyddio, eu storio neu eu gwaredu’n anghywir.

Garden Rectangle AW.jpg

Pobl ac anifeiliaid anwes

Bydd defnyddio, storio a gwaredu plaleiddiaid yn ddiogel yn helpu i warchod eich teulu a’ch anifeiliaid anwes. Os na fyddan nhw’n cael eu defnyddio neu eu storio’n ofalus, mae perygl y byddwch yn anadlu’r cemegion neu golli’r hylif ar eich croen.  

Os ydych chi wedi ystyried eich opsiynau ac wedi penderfynu defnyddio chwynladdwr ar eich lawnt, bydd angen i chi gadw oddi ar y gwair am gyfnod o amser ar ôl ei ddefnyddio rhag ofn i chi ddod i gyswllt â’r cemegion. Mae hynny’n golygu eich anifeiliaid anwes hefyd – os byddan nhw’n rhedeg ar y gwair yn rhy fuan ar ôl defnyddio chwynladdwr, gallan nhw fwyta’r gwair neu lyfu blew sydd wedi dod i gysylltiad â’r cemegion.   

Dŵr

Un gwe fregus yw’r amgylchedd, ac mae hynny’n golygu’r amgylchedd yn eich cartref neu’ch gardd gefn hefyd. Os bydd plaleiddiaid yn cyrraedd afonydd a nentydd, gallan nhw gyrraedd yr ardaloedd lle rydyn ni’n casglu dŵr yfed ohonynt. Drwy ddilyn y cyfarwyddiadau’n ofalus a defnyddio llai o gynnyrch, rydych chi’n helpu i leihau’r perygl.

Bywyd gwyllt

Mae llawer o blaleiddiad ar gyfer yr ardd yn rhai amhenodol. Er enghraifft, os oes gennych chi bla o lau’r dail, byddai plaleiddiad yn eu lladd nhw ond gallai’r plaleiddiad niweidio bywyd gwyllt arall sy’n dod i gysylltiad â’r planhigyn sydd wedi’i drin. Gallai hyn gynnwys peillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw. Gallwch osgoi effeithio ar fywyd gwyllt arall drwy chwistrellu’n fwy gofalus, neu ddefnyddio dull arall yn lle. Dilynwch ein canllaw arferion gorau yma.

 

Cyngor ar sut i stopio plaleiddiaid rhag niweidio’r amgylchedd:

  1. Dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus i wend yn siŵr nad ydych yn defnyddio gormod ohono.

  2. Gwaredwch y cynnyrch yn ôl y cyfarwyddiadau ar y botel.

  3. Storiwch y cynnyrch yn gywir yn ôl y cyfarwyddiadau ar y botel.

  4. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n defnyddio plaleiddiaid ger unrhyw system draenio dŵr.

  5. Peidiwch byth ag arllwys plaleiddiaid i lawr y sinc.

Hoffech chi ddysgu rhagor am y pwnc yma?  

Ewch I:

  1. https://www.hse.gov.uk/pesticides/user-areas/garden-home.html

  2. https://www.hse.gov.uk/pesticides/user-areas/garden-ome.htm#:~:text=do%20anything%20else.-,Storing%20pesticides,reach%20of%20children%20and%20pets

Previous
Previous

Plaleiddiaid; eich canllaw arferion gorau

Next
Next

A yw triniaethau gwenwynig lladd chwain eich anifeiliaid anwes yn difrodi afonydd Cymru?