Cornel y garddwyr – 10 darn o gyngor garddio gan arbenigwr

YouTuber Owen Harries shares his expert advice on how to tackle weeds in this video, which was originally posted on his Youtube page.

Mae garddio a thyfu planhigion yn hobi hamddenol a gwerth chweil a allai arwain at fwndeli o flodau hardd a chynaeafau hael dros y tymhorau. Mae hefyd yn wych ar gyfer eich lles a’ch iechyd meddwl gan ei fod yn ffordd o gael digonedd o awyr iach a fitamin D.

Os nad oes gennych chi brofiad blaenorol o arddio, gall meddwl am gychwyn arni fod yn llethol, ond does dim angen iddo fod. O atal chwyn i greu eich ecosystem eich hunan yn eich gardd, Owen Harries, neu y Welsh Gardener, sy’n rhannu 10 awgrym er mwyn eich helpu i flodeuo’n arddwr penigamp.

 
  1. Defnyddiwch offer fforddiadwy a fydd yn para

Bydd prynu offer garddio o ansawdd da yn gwneud garddio mor rhwydd â phosib, fel y gallwch gyflawni’r dasg yn hawdd. Ond does dim rhaid i chi wario ar offer drud. Os yw arian yn brin, prynwch y pethau sylfaenol yn unig: menig garddio, siswrn tocio, rhaw arddio fach, fforch law a chan dyfrio yw’r pum offeryn gorau i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Wedi’r cyfan, eich dwylo yw’r teclyn pwysicaf ar gyfer garddio!

23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 111.JPG

2. Dewiswch y pridd a’r lleoliad gorau ar gyfer eich planhigion

Bydd deall pa ardaloedd sy’n cael y mwyaf o haul neu gysgod yn eich gofod awyr agored yn eich helpu i ddewis y llefydd gorau ar gyfer plannu eich planhigion. Mae’n well gan wahanol blanhigion wahanol amodau golau a phridd, felly mae’n werth ymchwilio. Bydd pecyn profi pridd syml o’ch canolfan arddio yn eich helpu i ddewis y planhigion a’r llefydd plannu gorau i greu gardd brydferth.

3. Cynlluniwch eich gardd

Bydd cynllunio eich gardd yn drylwyr yn eich helpu i sicrhau eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’ch pridd a’ch lle. Cofiwch roi digon o le i’ch planhigion hefyd. Gall gorlenwi eich gardd atal eich planhigion rhag tyfu’n iawn, felly mae’n bwysig darllen y wybodaeth sydd ar becynnau hadau, potiau planhigion a labeli. Bydd y rhain yn rhoi’r manylion allweddol i chi am y gofynion gorau o ran cadw bylchau rhwng gwahanol fathau o blanhigion. Ar gyfer planhigion sy’n cael eu trosglwyddo o botyn i’r pridd, dylech dyllu twll sydd â diamedr digon llydan i gynnwys ei holl bridd a’i wreiddiau

Gair i gall: Rheol gyffredinol yw plannu hadau ar ddyfnder sydd ddwywaith neu dair gwaith eu lled, gyda haen ysgafn o bridd ar eu pennau.

Watering Can.png

4. Dyfriwch eich planhigion yn ystyriol

Er y gallech feddwl mai dyfrio planhigion yw’r dasg arddio symlaf, bydd gwybod sut i ddyfrio eich planhigion yn iawn yn sicrhau nad ydych chi’n anghofio dyfrio’r gwreiddiau gan adael eich planhigyn yn rhy sych.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dyfrio eich planhigion yn drylwyr, dyfriwch nhw’n araf a chyfeiriwch y dŵr fel eich bod yn gwlychu ardal y gwreiddiau. Bydd hyn yn galluogi’r planhigyn i ddefnyddio’r dŵr yn gyflymach a dylech golli llai o ddŵr pan fydd yn anweddu.

Gair i gall: Cofiwch beidio â defnyddio mwy o ddŵr na sydd ei angen arnoch yn eich gardd, a chasglwch ddŵr gyda chasgen ddŵr fel eich bod yn gofalu am eich gardd heb wastraffu dŵr yfed gwerthfawr. Mae awgrymiadau gan Dŵr Cymru ar sut i arbed dŵr yn eich gardd ar gael yma.

Mulch.png

5. Defnyddiwch domwellt fel rhan o’ch trefn arddio

Mae tomwellt yn ffordd wych o gadw chwyn i lawr. Waeth beth rydych chi’n ei dyfu, bydd haen o domwellt yn siŵr o fod yn fanteisiol i’ch gardd. Mae tomwellt sy’n bioddiraddiadwy yn cynnwys deunydd fel deiliach, gwellt, gwair, compost, naddion pren, rhisgl, a llwch llif. Mae tomwellt yn cynnig llawer o fanteision i arddwyr. Mae gosod haen o domwellt yn gallu helpu’ch planhigion i gadw lleithder ond mae’n ddigon trwchus i atal chwyn newydd rhag egino a thyfu drwyddo. I gael rhagor o wybodaeth am greu eich tomwellt eich hunan, ewch i wefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.

23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 66.JPG

6. Defnyddiwch ddulliau gwrthyrru naturiol

Ar eich taith arddio, rydych chi’n siŵr o ddod ar draws chwyn a phlâu di-groeso. Nid yw’r rhan fwyaf o blâu yn niweidiol i’ch planhigion a gallwch adael llonydd iddyn nhw. Fodd bynnag, mae plâu yn dod yn fwy o broblem, ac efallai eich bod yn meddwl bod plaladdwyr sydd wedi’u cymysgu’n barod yn ddatrysiad cyflym. Ond, mae’n bosib y byddan nhw’n gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Gall plaladdwyr gael effeithiau niweidiol ar ein hiechyd a’r amgylchedd os na fyddan nhw’n cael eu defnyddio’n gywir, felly er mwyn osgoi’r risg, defnyddiwch ddulliau naturiol o gadw malwod a gwlithod i ffwrdd o’ch planhigion. Mae dulliau naturiol a hawdd yn defnyddio pethau sy’n debygol o fod gennych yn eich cegin yn barod – o halen a finegr i blisg wyau. Darllenwch flogiad PestSmart i ddysgu rhagor am y dulliau naturiol yma.

7. Gwnewch le i fywyd gwyllt

Gyda phlanhigion daw digon o fywyd gwyllt. Er y gallech feddwl bod bywyd gwyllt yn un o elynion pennaf garddwyr, mewn gwirionedd mae bywyd gwyllt yn fanteisiol i’ch gardd. Mae adar yn bwyta llawer o blâu yn yr ardd, gan gynnwys malwod a gwlithod, pryfed gleision a lindys, tra bod gwenyn a phryfed eraill yn peillio ein cnydau bwyd.

Gwnewch le yn eich gardd sydd ychydig yn fwy gwyllt, lle gall bywyd gwyllt ffynnu. Er y gallai edrych yn wahanol i weddill yr ardd, byddwch yn gwneud eich rhan i gynnig lle i fyd natur ac yn cynnig cartref i ysglyfaethwyr naturiol sy’n gallu helpu i reoli plâu.

8. Plannwch bethau y gallwch eu bwyta

Gall plannu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hunan fod yn ffordd wych o ddod â chynnyrch ffres yn uniongyrchol i’ch plât. Gallwch blannu tomatos, winwns, aeron a chyrens yn eich gardd, ond cofiwch eu plannu yn ystod y tymor cywir yn dibynnu beth rydych chi’n gobeithio ei dyfu.

Mae rhai cnydau neu blanhigion yn gallu cynnig dull naturiol o gadw plâu cyffredin i ffwrdd hefyd. Er enghraifft, mae llawer o bryfaid yn casáu planhigion garlleg, winwns, cennin syfi a chrysanthemums. Bydd tyfu’r rhain yn ffordd o gadw plâu i ffwrdd o’ch gardd, tra eu bod nhw hefyd yn rhywbeth y gallwch eu cynaeafu yn ystod y tymhorau.

9. Ailddefnyddiwch hen jygiau llaeth a photeli plastig

Does dim rhaid i chi gael offer drud er mwyn creu gardd brydferth. Mae jygiau llaeth, hen boteli plastig a chynwysyddion yn orchuddion gwych ar gyfer eich planhigion yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn eu gwarchod rhag rhew, ac i roi cychwyn da iddyn nhw yn yr ardd.

Gair i gall: Gallwch greu eich system ddyfrio eich hunan hefyd drwy ddefnyddio poteli plastig er mwyn gwneud yn siŵr bod eich planhigion yn cael digon o ddŵr. Torrwch botel blastig yn ei hanner a drilio tyllau yn yr ochrau a’r caead. Claddwch y botel gyda’r caead am i lawr yn y pridd a llenwch yr hanner uchaf â dŵr. Plannwch y botel yn ddigon dwfn yn y pridd fel y gall gyrraedd gwreiddiau eich planhigion a rhyddhau dŵr. Hawdd!

23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 451.JPG

10. Mwynhewch arddio a mwynhewch eich gardd

Weithiau, efallai y byddwch chi’n teimlo’n rhwystredig nad yw eich planhigion yn tyfu mor dda ag y byddech chi’n ei hoffi. Peidiwch â phoeni. Dylai garddio fod yn rhywbeth hamddenol i’w fwynhau, felly cymerwch amser i eistedd yn eich gardd a mwynhau’r gwaith rydych chi wedi’i wneud hyd yma. Gwrandewch ar eich hoff gerddoriaeth, eich hoff raglen radio neu bodlediad wrth i chi chwynnu a chwilio am bryfed. Gwnewch beth bynnag gallwch chi i wneud garddio yn rhywbeth hamddenol i’w fwynhau.

Ynglŷn â'r awdur:

Mae Owen Harries, sy’n cael ei adnabod hefyd fel The Welsh Gardener, yn rhannu cyngor a chymorth defnyddiol drwy ei sianel YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu mannau gwyrdd garddwyr a thyfwyr eraill i ffynnu.

Previous
Previous

O’r ardd i’r gegin: pam mae’r arbenigwr garddio, Terry Walton, yn hyrwyddo tyfu organig

Next
Next

Plaleiddiaid; eich canllaw arferion gorau