O’r ardd i’r gegin: pam mae’r arbenigwr garddio, Terry Walton, yn hyrwyddo tyfu organig

Mae pob garddwr yn mynd ati i arddio’n wahanol, mewn ffordd sy’n gweddu i’w ffordd o fyw. Mae ein blogiwr gwadd a’r arbenigwr garddio ar BBC Radio 2, Terry Walton, yn dyfwr organig pybyr. Ar ôl darganfod ei hoffter o arddio fel bachgen ifanc a gafodd ei fagu yng Nghwm Rhondda, mae Terry’n rhannu pam mae’n dilyn egwyddorion sylfaenol er mwyn cadw ei gnydau organig yn blodeuo o dymor i dymor.

Allotment Rectangle AW.jpg

Dechreuais arddio fy rhandir cyntaf, sydd wedi’i osod ar lechwedd yng Nghwm Rhondda, pan o’n i’n 11 oed, ac rydw i wedi bod yn garddio’r un rhandir ers hynny. Er fy mod i wedi newid lleiniau cwpl o weithiau, gan uwchraddio i lain newydd ymhellach i lawr yr allt gyda llai o raddiant, yn y rhandir yma rydw i wedi dysgu popeth rydw i’n ei wybod am dyfu.

Dros y blynyddoedd, mae profiad wedi dysgu llawer i mi am yr amgylchedd rydyn ni’n tyfu ynddo, yr ecosystem naturiol mewn gerddi a rhandiroedd sy’n gorfod cael eu cydbwyso’n ofalus, a’r heriau sy’n wynebu tyfwyr a garddwyr. Un o’r heriau yma yw rheoli ffrindiau a gelynion, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel ysglyfaethwyr naturiol a ‘phlâu’, o amgylch eich llain.

Pulling Weeds Roundel AW.jpg

Dechreuais dyfu’n organig, gyda chyflenwad rheolaidd o dail ceffylau gan farchogion lleol i fwydo’r pridd, heb syniad am blâu mewn gwirionedd. Doedden nhw wirioneddol ddim yn rhywbeth roedd yn rhaid i fi eu rheoli pan ddechreuais i dyfu, ond erbyn canol fy chwedegau ro’n i’n defnyddio plaladdwr DDT* heb ddeall yn llawn yr effaith y gallai ei gael ar yr amgylchedd a’r cnydau ro’n i’n eu tyfu. Roeddwn i’n rhwystredig nad oedd y wybodaeth am y cemegion yma a’u heffaith bosib ar yr amgylchedd mor eglur ag y dylai fod.

Dyna oedd y trobwynt i fi, pan addewais i dyfu planhigion yn organig yn unig. Gan ddychwelyd at yr egwyddorion sylfaenol, erbyn hyn dim ond deunydd organig rydw i’n ei ddefnyddio i ofalu am fy mhridd, sy’n golygu y bydd bacteria a micro-organebau’n weithredol yn y pridd, sy’n gweithio i ryddhau maetholion y gall fy nghnydau fwydo arnyn nhw.

Fel tyfwr, eich tasg bwysicaf yw cadw plâu oddi ar eich planhigion. Mae digon o ffyrdd o wneud hyn nad ydynt yn ddibynnol ar gemegion. Yn dibynnu ar beth rydych chi’n ei dyfu a maint eich gofod, gallwch greu gorchuddion ar gyfer eich cnydau gyda rhwydi amddiffynnol, deunydd sy’n cysgodi eich cnydau rhag plâu a thywydd garw. Gallwch brynu fframiau parod i amddiffyn eich planhigion hefyd, bydd hyn yn eich arbed rhag gorfod adeiladu un eich hunan.

Patio Weeds Rectangle AW.jpg

Drwy fynd ati i ddewis peidio â defnyddio plaladdwyr, yn gyntaf, rydych chi’n amddiffyn eich hunan rhag cemegion cras a allai fod yn beryglus os na chânt eu defnyddio’n iawn.  Rydych chi hefyd yn caniatáu i ecosystem naturiol yr amgylchedd ffynnu. Bydd ysglyfaethwyr naturiol, fel draenogod ac adar, yn mwynhau bwyta’r gwlithenni a’r pryfed bresych rydych chi’n ceisio’u cadw draw o’ch planhigion.

Er mwyn bod yn arddwr organig, mae gofyn bod yn wyliadwrus. Dylech wirio eich planhigion neu’ch cnydau bob dydd, ac yn aml mae’n rhaid i chi weithio’n gyflym – cynaeafu, chwynnu, bwydo a rhoi’r gorchudd yn ôl ar y planhigion mor gyflym ag y gallwch chi cyn i’r pryfed ddechrau bwyta eich planhigion. Er y gall deimlo fel gwaith ailadroddus weithiau, mae garddio a thyfu organig yn llawer mwy gwerth chweil yn fy marn i. Wir i chi, bydd y llysiau y byddwch yn eu tyfu’n blasu’n anhygoel, heb achosi niwed i’r amgylchedd. 

Ynglŷn â'r awdur

Gair i gall gan Terry

Start small by creating a patch in your garden first to make sure you’ve got the bug before you take on an allotment which will be significantly bigger and more work.  

Mae Terry Walton, o Gwm Rhondda, wedi bod yn garddio ers oedd yn bedair oed. Mae’n fwyaf adnabyddus am roi cyngor garddio i wrandawyr BBC Radio 2 a BBC Radio Wales. Terry yw llysgennad PestSmart.

 

* Cemegyn cyfansawdd yw DDT oedd yn arfer cael ei ddefnyddio mewn pryfleiddiaid. Nid yw bellach wedi’i drwyddedu ac nid yw’n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw gynnyrch ar hyn o bryd.

Previous
Previous

Blogiad Gwadd: Sut mae rheoli chwyn a phlâu yn eich gardd drwy’r tymhorau

Next
Next

Cornel y garddwyr – 10 darn o gyngor garddio gan arbenigwr