Plaleiddiaid; eich canllaw arferion gorau

Rhowch ganmoliaeth i’ch hunan am ddod i chwilio am yr arferion gorau wrth ddefnyddio plaleiddiaid. Ond cyn i chi fynd ati i’w chwistrellu dros eich gardd, meddyliwch a oes angen cynnyrch cemegol mewn gwirionedd. Cwblhewch eich asesiad risg personol: a oes gennych chi blant bach? Anifeiliaid anwes? Lle diogel i storio’r plaleiddiad? Os ydych chi wedi ystyried defnyddio dulliau amgen ond yn dal yn awyddus i ddefnyddio plaleiddiad, dilynwch y canllaw arferion gorau yma.

PestSmart_Bottle-Stack-Question-Rectangle.jpg
  1. Prynwch y plaleiddiad cywir

    Mae gwahanol fathau o blaleiddiaid ar gyfer gwahanol anghenion, felly dylech ddarllen labeli gwahanol gynnyrch ac ystyried os yw’n addas i chi. Gofynnwch am gyngor cyn i chi brynu os ydych chi’n ansicr.

    *Gair i Gall* Peidiwch â phrynu plaleiddiaid ar y rhyngrwyd oni bai eich bod yn sicr eu bod wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y wlad yma. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gronfa ddata y gallwch ei defnyddio i weld a yw hi’n gyfreithiol defnyddio’r plaleiddiad.

Shopping Basket Rectangle AW.jpg

2. Peidiwch â phrynu mwy na sydd ei angen

Mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n prynu mwy o blaleiddiad na sydd ei angen ar y tro arnoch chi. Gall plaleiddiad sy’n weddill, os na fydd yn cael ei ddefnyddio, fynd yn anniogel neu’n anghyfreithlon hyd yn oed, os bydd rheoliadau’n newid. Yn ogystal â gwastraffu arian ar gynnyrch nad ydych chi ei angen, chi fydd hefyd yn gyfrifol am waredu’r plaleiddiad sy’n weddill yn ddiogel, a fydd yn niwsans os ydych chi wedi prynu gormod.

23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 153.JPG

3. Darllenwch y label bob amser

Mae’n swnio’n syml, ond bydd peidio â darllen y label cyn defnyddio’r plaleiddiad yn golygu y gallech fod yn camddefnyddio’r cynnyrch, gan roi eich hun mewn perygl. Yn yr un modd â mae gwahanol blaleiddiaid ar gyfer gwahanol anghenion, mae cyfarwyddiadau gwahanol ar gyfer pob cynnyrch unigol, a dyna pam mae angen i chi ddarllen y label bob amser. Hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn defnyddio’r un cynnyrch ers blynyddoedd, dylech ddarllen y label bob tro y byddwch yn ei brynu oherwydd gall y cynhwysion newid.

Slug Pellets_Ungloved Hands SQ AW.png

4. Gwarchodwch eich hunan

Gallwch leihau’r risg drwy ddefnyddio cyfarpar diogelu personol i warchod eich hunan rhag i unrhyw ddiferyn o blaleiddiad lanio ar eich croen.

5. Cliriwch y gofod

Gwnewch yn siŵr bod y gofod o’ch amgylch yn glir a bod plant ac anifeiliaid anwes yn ddigon pell o’r ardal. Bydd angen i chi gadw anifeiliaid a phlant i ffwrdd o’r planhigion sydd wedi’u trin am gyfnod o amser ar ôl chwistrellu hefyd, fel sydd wedi’i nodi ar y botel, felly darllenwch y label.


6. Cadwch lygad ar y tywydd

Os oes perygl o law, neu ei bod hi’n wyntog, nid dyma’r amodau cywir i ddefnyddio plaleiddiad. Os byddwch yn defnyddio plaleiddiad o dan amodau anghywir, mae’n bosib na fydd y broses yn effeithiol a bydd yn rhaid i chi ail-wneud y broses. Mae hyn yn cynyddu’r perygl i chi a’r amgylchedd, yn ogystal â gwastraffu amser ac arian.

23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 428.JPG

7. Targedwch eich chwistrelliad

Er mwyn osgoi chwistrellu’r plaleiddiad i lefydd nad ydych chi am eu trin, dilynwch y dull o dargedu eich chwistrelliad. Mae hyn yn golygu chwistrellu plaleiddiaid ar blanhigion neu ardaloedd penodol rydych chi am eu trin. Er enghraifft, os mai dim ond un neu ddau blanhigyn dant y llew sydd ar eich lawnt, does dim angen i chi chwistrellu’r lawnt gyfan â phlaleiddiad. Targedwch yr ardal benodol, sef gwreiddiau neu ddail y planhigyn, gan ddibynnu ar y broblem sydd gennych. Rydyn ni’n eich cynghori i beidio â thrin ardaloedd sy’n agos at ddraeniau hefyd, sef beth fydden ni’n ei alw’n ‘ardal amddiffyn’, fel bod llai o berygl i blaleiddiaid gyrraedd ein cyrsiau dŵr.

 
Garden Centre Shelves Rectangle AW.jpg

8. Storiwch nhw’n ddiogel

Mae storio plaleiddiad yn gywir yr un mor bwysig â’i ddefnyddio’n ddiogel. Os na wnewch chi hynny, gallai’r cemegion golli neu gallai plant ac anifeiliaid anwes gael gafael arno. Gwnewch yn siŵr bod caead y botel wedi’i gau’n dynn a bod y plaleiddiad yn cael ei gadw yn rhywle lle mae’r tymheredd yn gyson. Dilynwch y canllawiau ar y label bob amser. I gael rhagor o wybodaeth am storio plaleiddiaid, darllenwch ein blogiad.

9. Golchwch eich dwylo

Golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio plaleiddiaid, hyd yn oed os ydych wedi gwisgo menig. Mae cemegion yn gallu niweidio’r croen, felly mae’n well bod yn ddiogel na difaru.

Slug Pellets_Ungloved Hands SQ3 AW.png

10. Gwaredwch blaleiddiaid yn y ffordd gywir

Y peth pwysicaf i’w gofio ar y cam yma yw i beidio ag arllwys plaleiddiad mewn draen, sinc, toiled na ffosydd yn y ddaear ar unrhyw gyfrif. Gallan nhw gyrraedd ein cyrsiau dŵr ac achosi niwed i’r amgylchedd ac i fywyd gwyllt. Felly, beth ddylech chi ei wneud? Darllen y label! Dilynwch ein canllaw ar beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud wrth waredu poteli plaleiddiaid.

Previous
Previous

Cornel y garddwyr – 10 darn o gyngor garddio gan arbenigwr

Next
Next

Tri pheth y dylech ei wybod am blaleiddiaid cyn eu prynu