Beth i’w wneud os oes gennych blaladdwyr hen neu heb eu defnyddio

Mae plaladdwyr yn un ffordd o daclo plâu a chwyn di-baid, ond dydy’r cynhyrchion yma ddim yn para am byth – maen nhw’n gallu mynd heibio i’w dyddiad, dirwyn i ben, neu efallai nad ydyn nhw o ddefnydd i chi mwyach. Mae'n bwysig cael gwared ar unrhyw gynnyrch dros ben yn y ffordd gywir, er mwyn osgoi niwed i bobl, dŵr a bywyd gwyllt. 

Dilynwch y camau yma gyda’ch plaladdwyr:

 

1. Cadw trefn ar eich cyflenwad

Yn gyntaf, mae'n werth gwirio’n rheolaidd pa blaladdwyr sydd gennych chi. Nodwch unrhyw gynhyrchion nad oes eu hangen arnoch mwyach, a beth rydych chi eisiau ei gadw. Gwnewch yn siŵr bod eich cynhyrchion yn cael eu storio mewn lle oer a sych, allan o'r haul, fel bod eu hoes silff yn parhau i fod yn gywir.

2. Gwirio’r dyddiad dod i ben

Darllenwch y labeli ar y cynhyrchion a gwiriwch eu dyddiadau dod i ben. Nid yw'n ddiogel defnyddio plaladdwr os yw'n hen. Nid yn unig bydd yn llai effeithiol, ond gallai niweidio'ch planhigion. Os nad oes dyddiad dod i ben ar y cynnyrch, argymhellir cael gwared arno ar ôl dwy flynedd.

3. Plaladdwyr sydd wedi’u dirwyn i ben

Ar ôl rhoi unrhyw blaladdwyr hen neu ddiangen o'r neilltu, mae bob amser yn syniad da gwirio a yw unrhyw gynnyrch sydd ar ôl gennych wedi’i ddirwyn i ben. Mae rhai cemegion a chynhwysion actif sy’n cael eu defnyddio mewn plaladdwyr yn gallu cael eu tynnu o’r silffoedd os nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn ddiogel mwyach. Gallwch wirio a yw eich cynnyrch wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio drwy chwilio am ei rif MAPP (sydd i'w weld ar y label) ar declyn chwilio am blaladdwyr gardd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

4. Gwaredu unrhyw gynhyrchion anniogel neu ddiangen

Ar ôl nodi'r cynhyrchion y mae angen i chi eu gwaredu, mae'n bryd gwirio'r labeli am gyfarwyddiadau ar sut i gael gwared arnyn nhw. Peidiwch byth ag arllwys plaladdwyr i mewn i ddraen, sinc, toiled, ffos na’u gwaredu fel gwastraff cartref. Mae angen i chi eu gwaredu drwy ganolfan wastraff eich awdurdod lleol. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’r gwerthwr neu’r gwneuthurwr i gael cyngor.

5. Peidiwch ag anghofio’r pecyn!

Yn ogystal â'r plaladdwr ei hun, rhaid i chi gael gwared ar y cynhwysydd yn gywir hefyd. Peidiwch â llosgi deunydd pacio gwag oherwydd gallai ryddhau nwyon gwenwynig. Peidiwch â golchi cynhwysydd gwag mewn sinc, draen nac mewn ardal awyr agored. Dylid cael gwared ar ddeunydd pecynnu drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y label. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’r gwerthwr neu’r gwneuthurwr.

Cyngor Doeth:

  • Rhowch nodyn yn eich calendr i wirio'ch sied neu garej yn rheolaidd am unrhyw blaladdwyr sydd wedi mynd yn hen.

  • Os ydych chi’n ansicr ynghylch sut i gael gwared ar gynnyrch yn gywir, cysylltwch â’r gwerthwr neu’r gwneuthurwr.

  • Gwnewch yn siŵr bod eich plaladdwyr yn cael eu storio'n gywir fel nad yw hyn yn effeithio ar y dyddiad dod i ben.

Previous
Previous

Canllaw i ddechreuwyr ar gompostio

Next
Next

Tair ffordd o fod yn ddoeth ar-lein gyda phlaladdwyr