Tair ffordd o fod yn ddoeth ar-lein gyda phlaladdwyr

Gallai prynu plaladdwyr ar-lein ymddangos fel opsiwn hawdd, gyda mynediad at filoedd o gynhyrchion a gostyngiadau apelgar drwy glic botwm, ond mae'n bwysig eich bod yn ofalus wrth brynu'r mathau yma o eitemau ar y rhyngrwyd.

Cyn i chi fynd ar-lein a dechrau ychwanegu eitemau i’ch basged, cofiwch fod yna lawer o ddewisiadau amgen naturiol a all weithio yr un mor effeithiol wrth reoli chwyn a phlâu eraill yn eich gardd, a dylech ystyried y rhain yn gyntaf. Fodd bynnag, os ydych chi'n dal am ddefnyddio plaladdwr yn eich gardd, dyma dri awgrym ar sut i fod yn siopwr doeth wrth eu prynu ar y we. 

 

1. Dewch o hyd i werthwr dibynadwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis manwerthwr ag enw da ac un sy'n darparu gwybodaeth lawn am y cynnyrch a’r cynhwysion ymlaen llaw. Dylech allu cysylltu â’r manwerthwr i ofyn unrhyw gwestiynau am y cynnyrch ac, yn ddelfrydol, bydd ganddyn nhw ymgynghorydd cymwys ar gael i'ch helpu i wneud y dewis cywir. Gall rhai marchnadoedd ar-lein fod yn orlawn o werthwyr ac mae risg bob amser y gallech fod yn prynu cynnyrch sydd naill ai’n aneffeithiol, heb ei brofi neu nad yw’n gyfreithlon i’w ddefnyddio yng Nghymru, sy’n achosi ystod eang o broblemau diogelwch. Gallwch hefyd wirio cronfa ddata gardd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i weld a yw cynnyrch yn gyfreithlon.

2. Dewiswch y cynnyrch cywir

Mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn prynu’r cynnyrch cywir ar gyfer eich problem, a gall hynny fod yn anodd wrth brynu ar-lein. Gwiriwch label y cynnyrch am ragor o fanylion am y chwyn, pla neu’r clefyd planhigion mae’n ei dargedu i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â’ch gofynion ac edrychwch ar y wybodaeth am storio a gwaredu i sicrhau eich bod yn deall sut i ddefnyddio’r cynnyrch yn gywir. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â'r manwerthwr neu'r cwmni sy'n cynhyrchu'r plaladdwr i gael rhagor o gyngor.

3. Prynu’r hyn sydd ei angen

Er y gallai fod rhywfaint o ostyngiad am brynu mewn swmp, argymhellir eich bod yn prynu dim ond faint fydd ei angen arnoch am y flwyddyn. Wrth brynu amrywiaeth o blaladdwyr mae’n bosib y bydd gennych gynnyrch sy'n dod i ben neu fydd yn stopio cael ei werthu’n ddiweddarach gan ei wneud yn anghyfreithlon i'w ddefnyddio cyn i chi gael cyfle i'w ddefnyddio. Mae hyn yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am waredu unrhyw gynnyrch dros ben yn gywir. 

Ac felly dyna ni! Gallai prynu plaladdwyr ar-lein apelio o ran hwylustod a phrisiau cystadleuol ond mae risgiau yn gysylltiedig â hynny hefyd. Mae llawer o opsiynau naturiol amgen i’w hystyried cyn prynu plaladdwyr, ond os byddwch chi’n penderfynu prynu un, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r peryglon a chofiwch wneud eich gwaith cartref cyn i chi brynu un.

Previous
Previous

Beth i’w wneud os oes gennych blaladdwyr hen neu heb eu defnyddio

Next
Next

Blogiad Gwadd: Sut i reoli gwlithod heb blaladdwyr, gan y gwrw garddio Naomi Saunders