Canllaw i ddechreuwyr ar gompostio

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gadw'ch gardd i ffynnu yw drwy sicrhau bod y pridd yn iach, a gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio compost. Compostio yw’r enw ar y broses o gymysgu deunydd organig pydredig fel gwastraff bwyd, tail, pren, a thocion lawnt a gardd i greu gwrtaith planhigion naturiol. Mae ychwanegu compost at bridd yn helpu i'w gyfoethogi, gan roi hwb i faetholion hanfodol sy'n hybu tyfiant planhigion iachach.

Mae compostio yn adeiladu strwythur a gwead y pridd sydd yn ei dro yn cynyddu llif aer a chadw dŵr ac yn gwella ei briodweddau cyffredinol. Gall defnyddio compost gynnig llu o fanteision ac mae'n ddull eithaf hawdd y gall unrhyw un ei roi ar waith yn eu gardd eu hunain.  

Dyma ein canllaw cam wrth gam i ddysgu sut i gompostio’n llwyddiannus i gynnal gardd iach.

 
  1. Dod o hyd i leoliad addas

Y peth cyntaf sydd angen i chi ei benderfynu yw ble i roi eich bin neu bentwr compost. Mae'n well dod o hyd i leoliad awyr agored gyda rhywfaint o gysgod a photensial ar gyfer draenio. Dylai'r ardal yma fod yn hawdd i chi ei chyrraedd, ond allan o gyrraedd anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt.

2. Casglu cynhwysion

I ddechrau, bydd angen i chi gasglu'r deunyddiau ar gyfer eich pentwr compost. Mae hyn yn gymharol hawdd gan y gallwch ddefnyddio llawer o bethau sydd i'w cael yn eich cegin neu'ch gardd, er enghraifft gwastraff bwyd a dail. Defnyddiwch gymysgedd o ddeunyddiau gwyrdd (fel sbarion gardd a chegin) a brown (fel canghennau, gwellt, papur, a sglodion pren).

 Mae pethau fel croen llysiau a ffrwythau, plisgyn wyau a choffi yn dda i’w defnyddio hefyd gan eu bod yn gallu cael eu torri i lawr i'r pridd ac mae ganddyn nhw briodweddau sy’n cyfoethogi’r pridd. Er bod modd defnyddio'r rhan fwyaf o wastraff gardd a chegin yn eich pentwr compost, nid yw planhigion heintiedig, glaswellt gwlyb, na lludw glo yn addas. Dylech hefyd, osgoi sbarion cig, pysgod a chynnyrch llaeth gan y gallen nhw achosi arogl cryf a denu plâu diangen.

3. Gwneud eich pentwr compost

Torrwch ddeunyddiau compost yn ddarnau bach cyn eu hychwanegu at y bin compost gan y bydd hyn yn eu helpu i dorri i lawr yn hawdd. Argymhellir eich bod yn defnyddio haenau gwyrdd a brown bob yn ail sydd ychydig fodfeddi o ddyfnder i wella'r broses ddadelfennu. Anelwch at bentwr compost sy'n dair troedfedd o led ac uchder, bydd hyn yn haws i ddechreuwyr a bydd yn helpu'ch pentwr i gadw unrhyw wres a gaiff ei gynhyrchu yn ystod y broses gompostio. Gallwch brynu biniau compost o ganolfannau garddio a manwerthwyr ar-lein, neu gallech wneud un eich hun o hen baletau.

4. Troi eich pentwr

Er mwyn sicrhau bod eich pentwr yn compostio’n effeithiol dylech ei droi (ei gymysgu) yn rheolaidd, unwaith bob pythefnos. Er mwyn troi eich pentwr, bydd angen i chi ddefnyddio rhaw neu raca i gylchdroi'r deunyddiau.  Mae troi eich pentwr yn bwysig i sicrhau bod aer a lleithder yn cael eu dosbarthu'n gyfartal drwyddo draw.

5. Dyfrio’r pentwr

Er y dylai’r rhan fwyaf o’r lleithder yn eich pentwr compost ddod yn naturiol o’r glaw, mae’n ddefnyddiol ei ddyfrio o bryd i’w gilydd, yn enwedig os yw’n edrych yn sych.  Dylai eich pentwr fod yn llaith fel tywel sydd wedi’i wasgu, ond os bydd yn mynd yn rhy wlyb, gallwch ychwanegu deunyddiau brown yn ôl yr angen neu ei droi'n amlach i leihau'r lleithder.

Defnyddiwch hen ddarn o garped neu darp i orchuddio eich pentwr er mwyn cadw gwres i mewn a helpu'ch compost i goginio'n drylwyr. Bydd hyn hefyd yn gwarchod eich pentwr rhag y glaw, sy’n gallu golchi maetholion i ffwrdd a'u dyddodi i'r ddaear.

6. Gwybod pryd mae eich compost yn barod

Byddwch chi’n gwybod bod eich compost yn barod i’w ddefnyddio pan fydd yn frau ac yn lliw brown tywyll, yn debyg iawn i bridd. Gall y broses yma gymryd rhwng chwe mis a dwy flynedd i ddigwydd. Dylai arogli'n ffrwythlon ac yn naturiol ac ni ddylai fod unrhyw ddarnau mawr o ddeunyddiau ynddo.

7. Defnyddio eich compost

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio eich compost gorffenedig. Chi a'ch anghenion garddio sydd i benderfynu sut i'w ddefnyddio!  

· Tomwellt

Mae defnyddio compost fel tomwellt – sef haenen a roddir ar wyneb pridd i’w gadw’n llaith ac yn iach a lleihau tyfiant chwyn – yn ffordd wych o gael y gorau o’ch planhigion. Gan fod compost yn amsugnydd naturiol, bydd yn helpu eich gardd i gadw lleithder a bydd hefyd yn atal chwyn rhag egino. I ddefnyddio'ch compost fel tomwellt, rhowch haenen tair i chwe modfedd ar y pridd a chribiniwch nes ei fod yn wastad.

· Taenu ar ben eich gwelyau

Gallwch roi hwb i'ch gwelyau gyda chompost gorffenedig. Gwneir hyn fel arfer ddwywaith y flwyddyn i hybu twf iach. Ysgeintiwch swm hael o gompost ar hyd wyneb y pridd a gadewch i natur wneud y gwaith! Bydd glaw tymhorol yn golchi'r maetholion i lawr i lefel y gwreiddiau a bydd dadelfenyddion fel mwydod wedyn yn tynnu'r deunydd organig i'r pridd.

· Ychwanegu at goed ffrwythau

Mae'n well ffrwythloni coed ffrwythau yn gynnar yn y gwanwyn i gefnogi'r tymor tyfu wrth baratoi ar gyfer y cynhaeaf yn yr hydref. Bydd rhoi compost ar waelod eich coed ar ddechrau’r gwanwyn yn rhoi hwb gwerthfawr i iechyd eich coed. Mae compost yn llawn nitrogen sy'n arbennig o dda ar gyfer coed ffrwythau. Bydd y microfaetholion a'r macrofaetholion niferus sydd yn y compost hefyd yn werthfawr i’ch coed. Os byddwch yn methu’r cyfnod cynnar yma yn y gwanwyn, bydd ychwanegu compost unrhyw bryd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf yn rhoi hwb i’ch coed.

Previous
Previous

Dulliau naturiol o amddiffyn eich gardd rhag chwyn a phlâu drwy gydol y tymhorau

Next
Next

Beth i’w wneud os oes gennych blaladdwyr hen neu heb eu defnyddio