Blogiad gwadd: Pam mae’r garddwr profiadol Adam Jones o @adamynyrardd yn hyrwyddo garddio organig i frwydro yn erbyn plâu

Ro’n i’n ffodus i gael fy magu gyda thad-cu oedd yn frwd iawn dros dyfu llysiau cartref, a byddwn yn aml yn cropian ymhlith ei blanhigion yn dwyn mefus.

Garddwr traddodiadol yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel oedd fy nhad-cu ac roedd yn tyfu ei gnydau ei hun i fwydo’r teulu. Roedd yn defnyddio pob math o gemegau yn ei erddi i ladd plâu. Dyna oedd yn arferol ar y pryd. Ond yn fy arddegau, sylweddolais fod cynhyrchiant yr ardd yn lleihau tra bod yr achosion o afiechydon ar blanhigion ar gynnydd. Roedd gostyngiad amlwg hefyd mewn faint o beillwyr fel pryfed hofran a chacwn oedd yn ymweld â’r ardd.

Ro’n i’n ymwybodol iawn bod y dulliau garddio ro’n i’n gyfarwydd â nhw yn cael effaith niweidiol enfawr ar fy amgylchedd. Felly, pan brynodd fy ngwraig a minnau ein cartref cyntaf bum mlynedd yn ôl, fe benderfynon ni ddychwelyd at ddull o dyfu oedd yn hollol organig. Pam ydw i’n dweud ‘dychwelyd’? Oherwydd dyna oedd yn arferol yng Nghymru ac Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Nid cysyniad newydd yw organig.

 Fe ddechreuon ni deall a pharchu ecoleg ein gofod tyfu a dysgu sut i arddio law yn llaw â natur. Fe benderfynon ni beidio â phalu, hynny yw, peidio â throi’r pridd o gwbl, ond yn hytrach ychwanegu haenau o gompost yn flynyddol ar ben y pridd. Un o fanteision mwyaf peidio â phalu yw meithrin bioamrywiaeth, cefnogi pob math o ffurfiau bywyd yn ein gerddi ac nid y rhai y gallwn eu gweld yn unig, ond hefyd meithrin iechyd ein pridd – er nad ydyn ni’n gallu gweld yr holl ficro-organebau, dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n bwysig.

Mae’r rhan fwyaf o fywyd mewn pridd yn weddol agos at yr wyneb, lle mae modd iddo gyrraedd gwreiddiau newydd, ond drwy ei drin neu ei balu rydyn ni’n tarfu’n gyson ar y cynefin bioamrywiol cyfoethog hwnnw ac yn symud yr organebau hynny i ffwrdd o’n planhigion.  Rwy’n credu’n gryf nad oes modd i unrhyw ardd honni ei bod yn gyfeillgar i fyd natur os yw hi’n cael ei chloddio a’i haflonyddu o hyd.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio dull cyd-blannu yn ein gardd i ddefnyddio’r cysyniad y gall rhai planhigion gefnogi eraill i dyfu’n gryf ac yn iach os cânt eu plannu’n agos at ei gilydd.

Rydyn ni’n cyd-blannu winwns gyda moron i gadw clêr winwns a chlêr moron draw gan fod persawr eu dail yn drysu’r plâu yma yn yr ardd. Rydyn ni’n tyfu Marigold Ffrengig yn y tŷ gwydr i gadw pryfed gwyn draw. Mae Marigold Ffrengig yn wych i ddatrys problemau gyda gwlithod hefyd. Mae’n well gan wlithod a malwod ddail Marigold Ffrengig cyn eich dail salad neu fresych, felly drwy eu plannu yn y border o amgylch eich cnydau, gallwch leihau difrod gan wlithod yn sylweddol heb orfod defnyddio plaladdwyr. Rydych chi’n dal i gael planhigion Marigold cryf ac iach gan eu bod yn tyfu’n gyflym ac yn wydn ac yn gallu gwrthsefyll difrod gan wlithod yn dda.

Mae plannu planhigion sy’n gyfeillgar i bryfed yn help mawr yn erbyn plâu ac yn denu peillwyr i’r ardd, sy’n cynyddu eich cynnyrch o gnydau. Rydyn ni wedi plannu clari, liatris spicata, melyn Mair a bysedd y blaidd sy’n denu ysglyfaethwyr naturiol fel adar, pryfed hofran, a gwenyn meirch parasitig sy’n bwyta lindys, gwlithod a phryfed gleision. Mae’r planhigion yma hefyd yn denu pob math o wenyn a gloÿnnod byw sy’n peillio ein cnydau.

Drwy arddio mewn ffordd sy’n annog byd natur i’r ardd, nid yw rheoli plâu erioed wedi bod yn broblem fawr. Rwy’n credu mai dim ond rhan fach o’r ardd ydyn ni fel garddwyr, a natur yw’r grym bob tro.

Mae gan fyd natur ffordd anhygoel o ddod o hyd i’r cydbwysedd – y peth gwaethaf y gallwn ei wneud fel garddwyr o bosib yw gwthio’r cydbwysedd hwnnw i’r cyfeiriad anghywir. Mae’n anochel y bydd rhai cnydau’n cael eu colli oherwydd difrod plâu, ond os oes gennych ecosystem iach yn eich gardd, dylai unrhyw ddifrod fod yn fach iawn.

Mae dewis peidio â phalu a garddio’n organig wedi caniatáu i fi adfer y cydbwysedd hwnnw. Rydyn ni’n gweld bywyd mor amrywiol o ran pryfed, adar a mamaliaid yn ein gardd nad oedd yno bum mlynedd yn ôl, ac ar yr un pryd rydyn ni’n cynnal lle tyfu cynhyrchiol iawn.

Harddwch garddio organig yw bod llawer o’r dulliau yma wedi cael eu defnyddio gan ein hen fam-gu a thad-cu yn yr ardd. Ymunwch â fi i arddio mewn ffordd sy’n parchu ein hamgylchedd – mae’n llawer o hwyl! 

 

Rysáit heb blaladdwr Adam

Os hoffech chi leihau faint o lindys a gwlithod sy’n bwyta’ch cnydau, ceisiwch wneud eich chwistrell lladd plâu heb blaladdwyr eich hun gyda garlleg, pupur cayenne ac olew llysiau.

·      Cymysgwch 1 llwy fwrdd o bupur cayenne, 1 llwy fwrdd o arlleg wedi’i dorri’n fân, 1 llwy fwrdd o olew gyda 500ml o ddŵr a’i roi mewn potel chwistrellu.

·      Chwistrellwch ar eich holl ddail bob 7-10 diwrnod ac fe sylwch ar ostyngiad mawr o ran y dail sydd wedi’u difrodi.

Dyw hyn ddim yn niweidio’r pryfed, yn hytrach mae’n gadael blas cas ar ôl bwyta’r dail ac felly maen nhw’n tueddu i symud at blanhigion eraill.


Ynglŷn â'r awdur

Arbenigwr garddio 28 oed yw Adam, sy’n angerddol am dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth ei ardd, sydd hefyd yn cynyddu cynhyrchiant ei ardd yn ei dro. Mae Adam yn wyneb cyfarwydd ar raglen gylchgrawn Prynhawn Da ac mae ganddo slot garddio ar BBC Radio Cymru 2. Mae rhagor o wybodaeth am waith Adam ar gael ar ei wefan www.adamynyrardd.cymru neu drwy ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol @adamynyrardd.

 
Previous
Previous

Blogiad gwadd: Sut mae’r sector amwynder yn helpu i gadw ein hamgylchedd yn rhydd o chwyn a phlâu yn ddiogel

Next
Next

Blogiad Gwadd: Sut mae rheoli chwyn a phlâu yn eich gardd drwy’r tymhorau