Blogiad Gwadd: Sut mae rheoli chwyn a phlâu yn eich gardd drwy’r tymhorau

Os yw’r haul yn tywynnu neu os oes eira’n gorchuddio’r tir, mae chwyn a phlâu yn ymddwyn yn wahanol o dymor i dymor. Mae hyn yn gallu achosi trafferthion wrth wybod beth i’w wneud i sicrhau bod eich gardd mewn cyflwr da drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn helpu gyda hyn, mae llysgennad PestSmart ac arbenigydd garddio BBC Radio 2, Terry Walton, yn rhannu ei gyngor e ar sut i reoli chwyn a phlâu drwy’r tymhorau, waeth pa adeg o’r flwyddyn yw hi.

Paratoi ar gyfer yr hydref/gaeaf

Chwyn

Pan fydd y tywydd yn dechrau oeri, mae’r rhan fwyaf o chwyn yn stopio tyfu, sy’n un peth da am y tywydd oer. Dyma adeg wych i dynnu neu gloddio unrhyw chwyn sydd ar ôl yn yr ardd ar ôl misoedd yr haf. Mae’n well gwneud hyn ar ôl diwrnod o law, gan fod pridd a gwreiddiau meddal yn gwneud tynnu’r chwyn yn haws. Os nad yw hi wedi bod yn bwrw glaw, gallech ddefnyddio dŵr o’ch casgen ddŵr a’i arllwys ar y chwyn. Mae’n bwysig tynnu gwreiddiau chwyn, ac nid dim ond tynnu’r pen i ffwrdd, oherwydd os byddwch chi’n gadael y gwreiddiau mae’n debygol y byddan nhw’n ailegino. Drwy dynnu’r holl chwyn, dylai eich gardd aros yn gymharol ddi-chwyn tan y gwanwyn.

Plâu

Fel llawer o anifeiliaid eraill, mae plâu yn gaeafgysgu dros y misoedd oer, gan adael eich planhigion a’ch cynnyrch yn fwy diogel. Serch hynny, cyn i wlithod a malwod aeafgysgu, maen nhw’n dodwy wyau yn barod i’w deor yn y gwanwyn. Os hoffech chi leihau plâu yn eich gardd ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae nawr yn amser da i fynd ar helfa gwlithod a malwod. Er mwyn dod o hyd iddyn nhw, chwiliwch o dan gerrig, planwyr, potiau, coed a llwyni. Nid yw wyau heb eu hamddiffyn yn debygol o oroesi’r gaeaf, felly does dim angen i chi boeni am gael gwared â’r wyau, dim ond y malwod a’r gwlithod. Symudwch nhw oddi wrth eich planhigion ac o’ch gardd yn gyfan gwbl.

 Paratoi ar gyfer y gwanwyn/haf

Chwyn

Wrth i’r tywydd gynhesu, mae chwyn yn dechrau ymddangos. Does neb eisiau i chwyn lenwi eu gardd, felly mae’n bwysig eu cadw o dan reolaeth yn y gwanwyn. Fel arall, byddan nhw’n lledaenu tan iddyn nhw farw unwaith eto yn yr hydref. Er mwyn helpu chwyn i beidio â thyfu yn y lle cyntaf, ewch â fforch chwynnu dros eich pridd ar ddiwrnod sych, er mwyn i’r eginblanhigion sychu ar wyneb y gwely, yn lle ailwreiddio mewn pridd gwlyb.

Plâu

Ar ôl gaeafgysgu dros y misoedd oer, bydd unrhyw blâu neu wyau fydd ar ôl yn eich gardd yn dechrau ymddangos yn y gwanwyn. Un ffordd hawdd ac ecogyfeillgar o gael gwared â gwlithod yw rhoi nematodau allan. Mwydod microsgopig yw nematodau, sy’n bresennol yn y pridd yn naturiol mewn niferoedd isel. Maen nhw’n gweithredu fel paraseit ar blâu eraill, fel gwlithod. Y ffordd orau o’u defnyddio yw prynu brand priodol a dibynadwy, a dilyn y cyfarwyddiadau i’w hychwanegu at eich pridd. Fel arfer, byddech chi’n ychwanegu’r nematodau o leiaf wythnos cyn plannu rhywbeth. Yn anffodus, does dim modd defnyddio nematodau i drin malwod na fydd yn mynd i mewn i’r pridd, felly ewch i chwilio am y rhain mewn ardaloedd gwlyb o dan hen botiau a hambyrddau.

Ynglŷn â'r awdur

Mae Terry Walton, o Gwm Rhondda, wedi bod yn garddio ers oedd yn bedair oed. Mae’n fwyaf adnabyddus am roi cyngor garddio i wrandawyr BBC Radio 2 a BBC Radio Wales. Terry yw llysgennad PestSmart.

 
Previous
Previous

Blogiad gwadd: Pam mae’r garddwr profiadol Adam Jones o @adamynyrardd yn hyrwyddo garddio organig i frwydro yn erbyn plâu

Next
Next

O’r ardd i’r gegin: pam mae’r arbenigwr garddio, Terry Walton, yn hyrwyddo tyfu organig