Canllaw Huw Richards ar yr ysglyfaethwyr plâu naturiol y dylech fod yn eu hannog i ymweld â’ch gardd

Yn eich ymdrech i greu gardd iach heb blâu, gall harneisio pŵer ysglyfaethwyr da fod yn fanteisiol iawn. Yma, mae’r garddwr arbenigol Huw Richards yn trafod rhai o’r amddiffynwyr naturiol yma:

 

Buwch goch gota Larfa o Harlequin yn bwyta pryf glas.

Buchod coch cwta:

Mae buchod coch cwta yn adnabyddus am gadw llyslau o dan reolaeth. Maen nhw'n bwyta nifer fawr o'r plâu yma sy'n sugno sudd, gan reoli plâu llyslau’n effeithiol. Mae'r fuwch goch gota llawndwf a'u larfa ffyrnig yn cyfrannu at y dasg hollbwysig yma. Yn wir, mae gan y larfa fwy fyth o archwaeth na'r fuwch goch gota lawndwf ac maen bleser pur i'w darganfod yn eich gardd!

Gwenyn meirch parasitig:

Mae'r pryfed amrywiol yma’n dodwy eu hwyau y tu mewn neu ar bryfed eraill, gan arwain yn y pen draw at dranc eu gwesteiwyr. Mae gwenyn meirch parasitig yn elynion bygythiol yn erbyn plâu fel llyslau, lindys, pryfed gwynion, pryfed cennog, a mwy.

Pryfed hofran:

Gyda’u rôl ddeuol fel peillwyr ac ysglyfaethwyr, mae pryfed hofran yn amhrisiadwy yn yr ardd. Mae gan eu larfa, sy’n cael eu hadnabod fel ‘llewod llyslau’, archwaeth anniwall am lyslau a phlâu meddal eraill, ac mae'n nhw’n eu sugno i fyny wrth iddyn nhw symud o amgylch eich gardd.

Adenydd siderog:

Mae’r adenydd siderog a'u larfa yn helwyr llyslau effeithiol. Maen nhw hefyd yn ysglyfaethu ar bryfed blodiog, gwiddon, a phryfed bach eraill, gan ddarparu amddiffyniad amlbwrpas.

Chwilod y llawr:

Mae gan y rhyfelwyr nos yma, sy'n patrolio'r pridd a’r dail ar lawr, archwaeth amrywiol, yn gwledda ar wlithod, malwod, lindys, pryfed torri, a larfa pryfed amrywiol. Y ffordd orau o'u hannog i'ch gardd yw defnyddio gwair wedi’i dorri, dail, neu domwellt gwlân, yn enwedig mewn ardaloedd dan do fel tai gwydr neu dwneli polythen. Nid yn unig mae hyn yn creu cartref delfrydol ar gyfer yr helwyr trawiadol, ond mae hefyd yn helpu gyda chadwraeth dŵr.

Adar:

Mae adar yn chwarae rhan hanfodol mewn rheoli plâu yn naturiol gan fod eu diet yn cynnwys plâu gardd fel lindys, chwilod, llyslau a cheiliogod rhedyn. Gallwch ddenu adar gyda ffynonellau dŵr a blychau nythu, a gan fod llawer o adar mudol yn dod yn ôl bob blwyddyn o bell i nythu a magu eu hepil, gall gosod blychau adar eu helpu i gynhyrchu llawer mwy o gywion llwglyd er budd eich gardd hefyd. Er y gallai fod yn demtasiwn gosod llawer o fyrddau bwydo adar, sylwch y gall hyn amharu ar gylchredau bwydo blynyddol adar a'u gwneud yn ddibynnol ar grawn a gaiff ei gynhyrchu. Mae adar wedi esblygu i oroesi ar gronfeydd braster yn ystod y gaeaf, a byddan nhw’n awyddus i’w hailgyflenwi’r gwanwyn canlynol felly mae’n well defnyddio bwydwyr dim ond ar adegau o’r flwyddyn pan fo pryfed yn brin.

Gallwch wella presenoldeb yr ysglyfaethwyr da yma drwy gyd-blannu, creu cynefinoedd addas, ac osgoi defnyddio plaladdwyr. Drwy wahodd y cyfeillion yma i'ch gardd, byddwch yn hyrwyddo dull naturiol o reoli plâu ac yn meithrin amgylchedd ffyniannus, cytûn.

I gael rhagor o awgrymiadau ar ba flodau, perlysiau a chnydau i’w plannu yn eich gardd i annog mwy o ysglyfaethwyr naturiol, darllenwch flog Huw ar harneisio pŵer ysglyfaethwyr da.

Previous
Previous

Blogiad Gwadd: Sut i reoli gwlithod heb blaladdwyr, gan y gwrw garddio Naomi Saunders

Next
Next

Harneisio pŵer ysglyfaethwyr da – canllaw y garddwr arbenigol Huw Richards i reoli plâu yn naturiol