Blogiad Gwadd: Sut i reoli gwlithod heb blaladdwyr, gan y gwrw garddio Naomi Saunders

Gwlithod yw un o’r plâu mwyaf cyffredin y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw yn eich gardd, ac un o’r rhai mae pobl yn cwyno amdanyn nhw fwyaf.

Yma, rydyn ni’n siarad â’r arbenigwraig garddio a chyflwynydd Garddio a Mwy ar S4C, Naomi Saunders, i glywed ei chyngor ar sut i gadw’r creaduriaid trafferthus yma o dan reolaeth. 

Pan fyddwch chi’n gweld ôl gwlithod yn eich gardd, efallai mai eich greddf gyntaf fyddai estyn am wenwyn malwod, ond mae dulliau llawer mwy diogel a mwy ecogyfeillgar y gallwch chi eu defnyddio sydd yr un mor effeithiol. Dw i bob amser yn defnyddio atebion organig heb blaladdwyr – mae’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi – gan fy mod i’n ymwybodol o’r effaith mae fy ngweithredoedd yn ei chael ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt ac anifeiliaid, gan gynnwys Jini’r ci.

 Dw i wedi defnyddio cyfuniad o ddulliau naturiol i reoli gwlithod dros y blynyddoedd ac wedi cael llwyddiant mawr.

Dyma bump peth fydda i’n eu defnyddio i reoli gwlithod yn naturiol:

1.     Nematodau

Mae nematodau yn ddatrysiad gwych heb ddefnyddio plaladdwyr. Mae’r chwilod parasitig yma, sy’n byw’n naturiol yn ein pridd, yn rheoli gwlithod o dan y ddaear lle maen nhw’n dodwy eu hwyau, ac maen nhw’n cynnig ffordd effeithiol iawn o gadw niferoedd y gwlithod yn isel os ydych chi’n eu defnyddio’n rheolaidd.

Mae’r cynnyrch ar ffurf powdr a bydd angen i chi ei hydoddi mewn dŵr yn gyntaf i greu stoc. Yna, dw i'n ei roi mewn can dyfrio gyda phen tyllog ac yn mynd ati i ddyfrio fy ngardd, gan sicrhau fy mod i’n cadw'r pridd yn llaith. Rwy'n dyfrio'r ardal sydd wedi'i thrin eto ar ôl ei ddefnyddio. Bydd y gwlithod sy’n deor yn bwyta’r nematodau ac yn rhyddhau bacteria sy'n lladd y gwlithod, heb niweidio anifeiliaid na bywyd gwyllt arall. Bydd angen i chi ail-ddefnyddio'r nematodau bob 4-6 wythnos fel arfer (heblaw am yn ystod y gaeaf). Cofiwch brynu’r cynnyrch gan werthwr sydd ag enw da a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus.

2.     Trapiau cwrw

Er mwyn dal gwlithod ar wyneb eich pridd, mae trapiau cwrw yn opsiwn hawdd a fforddiadwy. Maen nhw'n gweithio drwy ddenu gwlithod at y burum a'r siwgr yn y cwrw (maen nhw wrth eu bodd â'r arogl!) yn hytrach na'ch planhigion. Mae'r gwlithod yn cael eu hatynnu at y cynwysyddion ac yn cael eu dal.

Gallwch brynu trapiau ar-lein neu, os hoffech roi cynnig arni eich hun gallwch wneud rhai gan ddefnyddio cynhwysydd plastig gyda chaead – torrwch dwll bach yn y caead i alluogi’r gwlithod i gyrraedd y cwrw.

Pan fydd ganddoch chi drapiau:

  • Arllwyswch ddwy i dair modfedd o gwrw (neu rywbeth tebyg i gwrw) i bob cynhwysydd. Gorau po felysed yw'r cwrw – dw i'n dueddol o ddefnyddio cwrw mefus gan fod gwlithod wrth eu boddau!

  • Rhowch nhw rhwng eich planhigion a bydd y gwlithod yn siŵr o ddod o hyd iddyn nhw. Bydd eu claddu yn y ddaear tua modfedd uwchben y pridd yn helpu i atal pryfed buddiol eraill fel nadroedd cantroed neu chwilod daear fioled rhag cwympo i mewn i’r cwrw.

  • Dylech ail-lenwi'r cwrw bob ychydig ddyddiau gan y bydd y burum yn anweddu'n gyflym a bydd dŵr glaw yn gwanhau'r hydoddiant gan ei wneud yn aneffeithiol.

3.     Codi â llaw

Un o'r ffyrdd hawsaf o gael gwared â gwlithod o'ch gardd yw eu codi â llaw. Gyda'r nos maen nhw’n bwydo ac maen nhw’n targedu eginblanhigion ifanc fel arfer – felly ewch allan fin nos gyda fflach lamp a menig ac ewch ati i chwilota o dan bob deilen! Edrychwch o dan ochr isaf y dail a choesynnau planhigion gan mai dyma lle mae gwlithod yn cuddio fel arfer rhag yr haul ac ysglyfaethwyr. Dilynwch unrhyw lwybrau llysnafedd a welwch gan y bydd hyn yn eich arwain at y drwgweithredwyr gludiog. Ar ôl dod o hyd iddyn nhw, symudwch nhw mor bell â phosib o'ch gardd neu rhowch nhw mewn bwced o ddŵr â sebon. Byddwch chi’n synnu pa mor dda yw’r dull yma am leihau’r boblogaeth o falwod.

4.     Planhigion i gadw gwlithod draw

Mae mathau penodol o blanhigion mae gwlithod yn eu casáu a gallwch eu defnyddio i’w cadw draw. Bydd planhigion ag arogl cryf fel lafant, rhosmari a ffenigl yn gyrru gwlithod i ffwrdd o'ch gardd oherwydd arogl yr olewau hanfodol sydd ynddyn nhw. Yn ogystal â’r arogl annymunol, dydy’r planhigion yma ddim yn cynnig unrhyw fwyd i wlithod, sy’n golygu na fyddan nhw am ddod i’ch gardd. Mae'r planhigion yma hefyd yn cynnig cynhwysion gwych ar gyfer eich cegin!

5.     Chwistrellydd garlleg

Mae alisin, cyfansawdd sy’n cael ei greu gan fylbiau garlleg, yn gwrthyrru ac yn lladd gwlithod. I weld canllaw cam wrth gam ar sut i wneud eich chwistrellydd garlleg eich hun, ewch i dudalen atebion naturiol PestSmart yma. Gallwch chi deilwra'r chwistrell i'ch anghenion penodol drwy wanhau'r cryfder yn dibynnu ar yr hyn sy'n gweithio i'ch gardd. I ddechrau, defnyddiwch ddau fwlb o arlleg wedi'u hychwanegu at 120ml o ddŵr. Gallwch ei adael i sefyll dros nos neu ei falu mewn prosesydd bwyd. Yna rhowch yr hylif mewn potel chwistrellu a'i chwistrellu ar ddail eich planhigion i atal pryfed. Mae chwistrell garlleg yn ddewis amgen naturiol gwych yn lle plaladdwyr a all niweidio anifeiliaid anwes a phobl.

Previous
Previous

Tair ffordd o fod yn ddoeth ar-lein gyda phlaladdwyr

Next
Next

Canllaw Huw Richards ar yr ysglyfaethwyr plâu naturiol y dylech fod yn eu hannog i ymweld â’ch gardd