Harneisio pŵer ysglyfaethwyr da – canllaw y garddwr arbenigol Huw Richards i reoli plâu yn naturiol

Mae angen strategaethau rheoli plâu effeithiol i gynnal gardd iach a ffyniannus. Er bod dulliau traddodiadol yn aml yn dibynnu ar blaladdwyr, mae dulliau amgen a naturiol yn golygu harneisio pŵer ysglyfaethwyr da.

Yng Nghymru, rydyn ni fel arfer yn dibynnu ar gyfnod o ailosod yn ystod y gaeaf (pan fydd tymheredd rhewllyd yn rheoli poblogaethau plâu), ond wrth iddi ddod yn anoddach rhagweld patrymau tywydd, mae angen i ni edrych ar opsiynau eraill i reoli plâu gan gynnwys denu amrywiaeth o bryfed a chreaduriaid ysglyfaethus i'n gerddi drwy blannu cnydau penodol.

Yma, mae’r garddwr arbenigol Huw Richards yn archwilio detholiad o gnydau a all ddenu ysglyfaethwyr naturiol i’ch gardd, fel gwenyn meirch parasitig, buchod coch cwta a phryfed hofran, sydd nid yn unig yn fanteisiol i’ch gardd yn eu llawndwf, ond sy’n ysglyfaethwyr ffyrnig a llwglyd fel larfa, ac yn ffordd gynaliadwy ac organig o reoli plâu.

 

1. Blodau llawn neithdar

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddenu pryfed da yw drwy blannu blodau llawn neithdar yn eich gardd. Mae'r blodau bywiog yma’n ffynhonnell werthfawr o fwyd, ac yn denu amrywiaeth eang o ysglyfaethwyr sy'n bwydo ar blâu, er enghraifft llyslau, pryfed duon, gwlithod a lindys.

Mae rhai o’r dewisiadau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

  • Melyn Mair: Mae blodau Melyn Mair, neu gold Mair, yn denu buchod coch cwta, pryfed hofran ac adenydd siderog. Mae eu petalau oren a melyn llachar nid yn unig yn ddeniadol yn weledol ond hefyd yn darparu gwledd llawn neithdar ar gyfer y pryfed defnyddiol yma.

  • Tafod yr ych: Gyda’i flodau hardd siâp seren glas, mae tafod yr ych yn ffefryn gen i ac yn ffefryn ymhlith gwenyn a phryfed hofran. Mae ei neithdar fel magnet, ac yn denu peillwyr ac ysglyfaethwyr plâu i'ch gardd.

  • Llygad llo mawr: Mae’r blodyn yma, sy’n flodyn gwyllt siriol gyda phetalau gwyn a chanol melyn, yn denu pryfed hofran, buchod coch cwta, a gwenyn, sydd i gyd yn cyfrannu at beillio a rheoli plâu yn naturiol. Mae’r llygad llo mawr yn addas iawn ar gyfer gerddi ar ffurf dolydd neu ardaloedd o flodau gwyllt.

2. Planhigion wmbelifferaidd

Mae planhigion wmbelifferaidd, sydd â chlystyrau o flodau tebyg i ymbarél, yn arbennig o effeithiol wrth ddenu gwenyn meirch parasitig a phryfed hofran, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth reoli plâu gardd. Dyma rai enghreifftiau nodedig:

  • Ffenigl: Mae ffenigl, gyda'i ddail pluog a'i arogl aromatig, yn fagnet ar gyfer buchod coch cwta a phryfed hofran, y mae eu larfa yn mwynhau gwledda ar lyslau a phlâu eraill yn eich gardd. Mae plannu ffenigl yn eich gardd yn darparu amgylchedd croesawgar a ffynhonnell fwyd wych ar gyfer y pryfed buddiol yma.

  • Dil: Mae dil nid yn unig yn berlysieuyn coginio ond hefyd yn gyfaill pwerus wrth reoli plâu. Mae ei flodau melyn yn denu gwenyn meirch parasitig, sy'n dodwy eu hwyau y tu mewn i bryfed niweidiol fel llyslau, gan ddileu eu poblogaethau i bob pwrpas.

  • Llysiau'r angel: Mae’r planhigyn trawiadol yma, gyda’i bennau mawr, crwn, yn denu ystod amrywiol o bryfed buddiol fel gwenyn meirch parasitig, buchod coch cwta, a phryfed hofran, sy’n cyfrannu at ecosystem gytbwys drwy ysglyfaethu ar blâu gardd cyffredin.

3. Perlysiau a Phlanhigion Garlleg 

Mae llawer o berlysiau a phlanhigion garlleg cyffredin yn wych ar gyfer eu defnydd yn y gegin ond hefyd am eu gallu i ddenu pryfed da. Ystyriwch blannu’r canlynol yn eich gardd:

  • Coriander: Mae'r llysieuyn amlbwrpas yma’n denu pryfed hofran a gwenyn meirch parasitig, gan ei wneud yn ddewis ardderchog ar gyfer rheoli plâu yn naturiol. Gellir plannu coriander mewn gwelyau ac mewn cynwysyddion, gan gynnig hyblygrwydd wrth ddylunio gerddi. Gellir mwynhau pob rhan o'r planhigyn yn y gegin hefyd, felly unwaith bydd y blodau wedi gwneud eu gwaith o gynnal llu o bryfed da, cynaeafwch yr hadau gwyrdd gwerthfawr ar gyfer coginio.

  • Cennin syfi: Mae blodau porffor cain y cennin syfi yn ddeniadol iawn i beillwyr fel gwenyn a phryfed hofran. Drwy blannu cennin syfi, rydych chi'n darparu ffynhonnell fwyd ar gyfer y pryfed da yma gan fwynhau ychwanegiad blasus i'ch seigiau.

  • Garlleg: Ar wahân i'w flas llym a'i fanteision iechyd, mae gan garlleg rôl werthfawr arall i'w chwarae yn yr ardd, gan atal ystod eang o blâu wrth ddenu buchod coch cwta, sy'n bwydo ar lyslau a phryfed dinistriol eraill.

Ac ambell i blanhigyn arall gwerth ei grybwyll...

  • Lafant: Mae'r blodau persawrus yma’n ddeniadol iawn i bryfed fel buchod coch cwta, pryfed hofran ac adenydd siderog, felly mae eu plannu yn eich gardd nid yn unig yn ychwanegu harddwch ac arogl ond hefyd yn ffynhonnell fwyd i'r ysglyfaethwyr yma.

  • Blodau’r haul: Mae blodau'r haul yn hyfryd i edrych arnyn nhw ond maen nhw hefyd yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer pryfed da. Mae eu pennau mawr, llachar yn denu ysglyfaethwyr fel buchod coch cwta a gwenyn meirch parasitig. Dewiswch fathau gyda chanol agored, gan eu bod yn fwy hygyrch i bryfed.

  • Dant y Llew: Er bod rhai pobl yn ystyried dant y llew fel chwyn, maen nhw mewn gwirionedd yn ffynonellau bwyd gwerthfawr ar ddechrau'r flwyddyn pan nad oes llawer o flodau ar gael ar gyfer pryfed da sy'n hoff o neithdar. Gall caniatáu i flodau dant y llew dyfu yn eich gardd helpu i ddenu a chynnal poblogaeth o fuchod coch cwta.

Previous
Previous

Canllaw Huw Richards ar yr ysglyfaethwyr plâu naturiol y dylech fod yn eu hannog i ymweld â’ch gardd

Next
Next

Deall y wybodaeth ar botel a label plaladdwr: canllaw cam wrth gam