Dulliau naturiol o amddiffyn eich gardd rhag chwyn a phlâu drwy gydol y tymhorau
Mae gardd yn bleser i’w chael ac yn gyfrifoldeb i’w chynnal, yn enwedig os ydych chi’n newydd i arddio. Drwy gydol y flwyddyn, bydd eich gardd yn wynebu gwahanol fathau o chwyn a phlâu a all achosi niwed i'ch llysiau neu'ch blodau, felly mae'n dda cael syniad o sut i'w rheoli yn ystod y tymhorau amrywiol.
Efallai y cewch eich temtio i fynd yn syth at ddefnyddio plaladdwyr, ond efallai y byddai’n werth ystyried dulliau mwy naturiol yn gyntaf.
Isod, mae awgrymiadau ar sut i gadw chwyn a phlâu o dan reolaeth drwy gydol y tymhorau, gan ddefnyddio dulliau naturiol na fydd yn cael effaith negyddol ar eich amgylchedd lleol.
Gwanwyn
Gyda dyfodiad yr haul a thywydd cynhesach ar ôl y gaeaf oer mae’n debygol y bydd llawer o chwyn yn ymddangos hefyd. Mae’n hanfodol cael gwared ar y rhain cyn dechrau plannu blodau’r gwanwyn oherwydd gallan nhw fod yn dwyn maeth gwerthfawr o’r pridd. Dyma sut i wneud hynny:
Mae codi chwyn â llaw yn ffordd wych o reoli poblogaethau chwyn, ac yn ffordd uniongyrchol o fynd at wraidd y planhigyn gan eu hatal rhag ail-dyfu. Mae hwn yn ddull hawdd sy'n eich galluogi i glirio'ch gwelyau ar gyfer blodau newydd a chael rhywfaint o ymarfer corff yn y fargen.
Gallwch ddefnyddio eitemau o’ch cypyrddau i wneud chwistrellau halen a finegr, sy’n ffordd rad ac effeithiol o dargedu chwyn. Mae'r asid asetig mewn finegr yn lladd chwyn tra bod yr halen yn sychu'r planhigyn ac yn tarfu ar ei gydbwysedd dŵr mewnol.
Mae’r gwanwyn hefyd yn adeg berffaith i benderfynu pa rannau o’ch gardd hoffech eu cadw’n “wyllt” drwy eu gadael i ordyfu’n fwriadol. Bydd cynnwys ardaloedd fel hyn fel rhan o gynefin naturiol eich gardd yn annog ysglyfaethwyr naturiol fel adar, brogaod a draenogod i ymweld.
Haf
Wrth i blanhigion flodeuo ac i lysiau ddechrau tyfu, bydd plâu fel trychfilod a gwlithod yn ymosod arnyn nhw. Gall pryfleiddiad swnio fel yr ateb cyflymaf a hawsaf, ond gallan nhw gael effaith y tu hwnt i’ch gardd, felly mae'n werth rhoi cynnig ar ddefnyddio opsiynau naturiol amgen yn gyntaf.
Mae modd defnyddio pethau o’ch cegin, fel croen oren a garlleg, i’w hatal. Bydd gosod croen ffrwyth sitrws i ffwrdd o’ch blodau a’ch llysiau yn denu gwlithod ac yn eu dargyfeirio oddi wrth eich planhigion, a bydd plannu garlleg yn ffordd o gadw plâu i ffwrdd.
Mae plisgyn ŵy hefyd yn rhwystr mawr i wlithod gan fod yr ymylon miniog yn eu hatal rhag cropian drosto. Mae'r maetholion yn y plisgyn ŵy yn fuddiol i'r pridd hefyd.
Mae codi gwlithod a malwod â llaw yn ddull syml a all helpu i gyfyngu ar bresenoldeb y plâu llysnafeddog yma, a gellir gwneud hyn drwy gydol y flwyddyn er lles eich planhigion a'ch gardd yn gyffredinol.
Hydref
Pan fydd y tywydd yn dechrau oeri, mae chwyn yn dueddol o roi’r gorau i dyfu, sy’n gyfle gwych i godi chwyn sydd dros ben ers yr haf. Yr amser gorau i wneud hyn yw ar ôl diwrnod glawog pan fydd y pridd a’r gwreiddiau’n feddal fel bod modd eu codi’n hawdd. Os nad yw hi wedi bwrw glaw ers tro, gall defnyddio can dyfrio helpu i lacio’r pridd o amgylch y chwyn.
Wrth godi chwyn, tynnwch y gwreiddiau yn hytrach na phen y chwyn yn unig. Os bydd y gwreiddiau’n cael eu gadael yn y tir, gall y chwyn ail-dyfu. Drwy dynnu’r holl chwyn yn ystod y cyfnod yma, dylai eich gardd aros yn gymharol ddi-chwyn tan y gwanwyn.
Dewis arall yw taenu tomwellt yn hael yn eich gardd; sef gorchuddio’r pridd gyda haen rhydd o ddeunydd sydd â mwynau ac olewau naturiol. Mae tomwellt yn helpu i fynd i’r afael â chwyn a phryfed digroeso.
Gaeaf
Mae plâu yn dueddol o orffwys yn ystod y misoedd oer, gan adael eich planhigion a’ch llysiau’n ddiogel am y tro. Er mwyn lleihau nifer y gwlithod a malwod yn eich gardd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ewch i chwilio amdanyn nhw cyn iddyn nhw gael cyfle i ddodwy eu hwyau. Edrychwch o dan gerrig, llwyni a photiau plannu, a symudwch nhw i ffwrdd yn ofalus â llaw.