Deall y wybodaeth ar botel a label plaladdwr: canllaw cam wrth gam

Er bod llawer o atebion naturiol i reoli chwyn a phlâu y dylech roi cynnig arnyn nhw yn eich gardd cyn dewis cynnyrch plaladdwr, os byddwch chi’n dewis defnyddio chwynladdwr neu bryfladdwr, mae’n bwysig eich bod yn deall beth mae’r wybodaeth ar y label yn ei olygu. Bydd y canllawiau ar y label yn rhoi gwybod i chi sut i ddefnyddio, storio gwaredu â phob cynnyrch yn iawn, er mwyn diogelu pobl, dŵr a bywyd gwyllt. Dyma restr ddefnyddiol sy’n egluro rhai o’r negeseuon y gallech eu gweld ar botel plaladdwr.

 

1.     Sut i’w defnyddio

Cyn defnyddio cynnyrch, darllenwch y cyfarwyddiadau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn eu dilyn yn gywir a bod gennych chi’r offer cywir (e.e. menig). Drwy ddilyn y cyfarwyddiadau, gallwch sicrhau eich bod yn bod mor ddiogel â phosib ac y bydd y cynnyrch yn gweithio’n effeithiol yn erbyn chwyn neu blâu.

2.     Pryd i’w defnyddio

Mae’n rhaid defnyddio cynhyrchion plaladdwyr o dan yr amodau cywir. Bydd y label yn rhoi manylion i chi am yr amodau tywydd gorau ar eu cyfer – er enghraifft, ar ddiwrnodau sych heb lawer o wynt. Bydd hefyd yn dweud wrthoch pa mor aml i’w ddefnyddio, ar ba adeg o’r flwyddyn, ac ar ba gam tyfu dylai’r chwyn neu blâu fod er mwyn i’r cynnyrch fod yn fwyaf effeithiol.

3.     Ble i’w defnyddio

Cyn prynu plaladdwr, dylech nodi beth yw’r chwyn, pla neu glefyd planhigion er mwyn dewis y cynnyrch cywir. Bydd gan y label gyfarwyddiadau o ran ble dylid defnyddio’r cynnyrch ac ble na ddylid ei ddefnyddio.

Dylech osgoi defnyddio cynhyrchion plaladdwyr yn agos at gyrsiau dŵr a draeniau gan y gallant gael effaith negyddol ar fywyd gwyllt a dŵr. Dilynwch y cyfarwyddiadau o ran defnydd o gwmpas llystyfiant arall er mwyn osgoi canlyniadau digroeso. Bydd y label yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio plaladdwyr yn gywir mewn llefydd lle gallai plant ac anifeiliaid anwes fynd iddynt.

4.     Storio a gwaredu

Gwiriwch y label ar eich cynnyrch i gael cyfarwyddiadau penodol am storio a gwaredu. Yr arfer gorau yw storio plaladdwyr mewn lleoliad oer, sych a diogel, sydd y tu hwnt i gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes. Gwiriwch ddyddiad dod i ben y cynnyrch, oherwydd gallai defnyddio cynnyrch sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad olygu nad yw’n effeithiol yn erbyn chwyn a phlâu bellach.

Peidiwch byth ag arllwys cynhyrchion heb eu defnyddio neu sydd wedi mynd heibio i’w dyddiad i lawr draen neu sinc. Os oes gennych blaladdwr dros ben, bydd angen i chi ei waredu drwy ganolfan ailgylchu gwastraff sylweddau eich awdurdod lleol. I ddod o hyd i’ch canolfan leol, cliciwch y ddolen yma.

Cyngor Doeth:

1. Os ydych chi’n teimlo bod angen mwy o wybodaeth arnoch chi am sut i ddefnyddio cynnyrch yn gywir cyn dechrau arni, gofynnwch i’r gwerthwr neu’r gweithgynhyrchwr. 

2. Darllenwch y label bob tro y byddwch chi’n defnyddio cynnyrch. Er ei bod yn bosib bod gan wahanol gynhyrchion gyfarwyddiadau tebyg, mae’n well peidio â chymryd yn ganiataol y byddan nhw’r un peth, hyd yn oed os ydych chi’n prynu’r un cynnyrch.

3. Mae llawer o atebion naturiol i reoli chwyn, plâu a chlefydau planhigion y dylech roi cynnig arnyn nhw o gwmpas eich cartref yn gyntaf – mae llawer ohonyn nhw’n defnyddio cynhyrchion fel halen a finegr, sy’n debygol o fod yng nghwpwrdd eich cegin.   

Previous
Previous

Harneisio pŵer ysglyfaethwyr da – canllaw y garddwr arbenigol Huw Richards i reoli plâu yn naturiol

Next
Next

Plâu gardd a chlefydau planhigion cyffredin a sut i’w hadnabod