Sut i waredu plaladdwyr yn gywir
Er bod plaladdwyr yn ateb effeithiol yn y tymor byr ar gyfer mynd i’r afael â chwyn, plâu a chlefydau ar blanhigion, gall eu gwaredu nhw’n anghywir gael effeithiau hirdymor difrifol ar ein hamgylchedd. Mae’r canllaw yma yn eich helpu i ddeall sut i waredu plaladdwyr a’u cynwysyddion – p’un a ydyn nhw dros ben neu’n hen – mewn ffordd sy’n diogelu pobl, bywyd gwyllt a ffynonellau dŵr.
Gwaredu plaladdwyr dros ben a’u poteli
Gwnewch y canlynol ✅
Dylech ddarllen a dilyn y cyfarwyddiadau ar label y plaladdwr bob amser, gan fod canllaw gwahanol gan bob cynnyrch plaladdwr ar sut i’w waredu’n ddiogel.
Os oes gennych blaladdwyr dros ben, bydd angen i chi ei waredu drwy ganolfan ailgylchu gwastraff sylweddau peryglus eich awdurdod lleol. I ddod o hyd i’ch canolfan leol, cliciwch y ddolen yma.
Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’r gwerthwr neu i’r gwneuthurwr am gyngor ar sut i waredu plaladdwyr dros ben neu boteli gwag.
Ni ddylech wneud u canlynol ❌
Peidiwch â gwaredu plaladdwyr heb ddarllen a dilyn y cyfarwyddiadau’n ofalus.
Peidiwch byth ag arllwys hylif dros ben i’r draen, y sinc, y tŷ bach na’r ffos oherwydd gallai gyrraedd cyrsiau dŵr, a niweidio bywyd gwyllt.
Peidiwch â llosgi deunydd pacio plaladdwyr gan y gallai ryddhau nwyon gwenwynig.
Os ydych chi’n defnyddio plaladdwr crynodedig sydd angen ei wanhau, peidiwch â chymysgu mwy na fydd ei angen arnoch ar yr adeg honno, neu bydd gennych gymysgedd dros ben y bydd yn rhaid i chi gael gwared arno.
Gair I Gall:
1. Peidiwch â phrynu a/neu gymysgu mwy na sydd ei angen arnoch i reoli’r pla penodol ar yr adeg honno.
2. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel ar sut i waredu eich plaladdwyr.
3. Dylech waredu plaladdwyr drwy ganolfan ailgylchu gwastraff sylweddau peryglus eich awdurdod lleol.
4. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’r gwerthwr neu’r gwneuthurwr am gyngor.