Pa risgiau sy’n gysylltiedig â phlaladdwyr?

Mae’r ffordd gywir o storio plaladdwyr yn aml yn cael ei anwybyddu. Rydyn ni’n dueddol o feddwl mwy am sut i gael gwared ar y chwyn yn hytrach na beth ddylen ni ei wneud gyda’r plaladdwr cyn ac ar ôl ei ddefnyddio. Gall defnyddio, storio a gwaredu plaladdwyr yn anghywir achosi niwed difrifol i’n hunain ac i’r amgylchedd.

Dilynwch ein canllaw i’ch helpu i gymryd y camau cywir ar gyfer storio plaladdwyr er mwyn gwarchod eich hunain, plant, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a chyrsiau dŵr.

Slug Pellets_Ungloved Hands SQ AW.png
  1. Gallai plaladdwyr fod yn niweidiol i chi

    Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio dulliau amgen yn gyntaf, ond yn dal am brynu plaladdwyr, y peth pwysicaf yw eu trin yn ofalus. Dydych chi ddim am achosi niwed i’ch hunan nac i neb arall. Gallai defnyddio’r cynnyrch heb dalu sylw manwl achosi i chi golli’r hylif ar eich croen neu anadlu’r mygdarth.

    Mae’n bwysig eich bod yn ei gadw mewn lle diogel ac yn ei waredu’n ofalus hefyd.

    Mae rhagor o wybodaeth bwysig am sut i ddefnyddio, storio a gwaredu plaladdwyr yn gywir ar gael yn ein blogiadau eraill.

    *Gair i Gall* Os ydych chi’n bwriadu defnyddio plaladdwyr yn eich gardd, cofiwch ddarllen y label i weld pa gyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen arnoch. Byddai’n syniad da gwisgo menig diogelwch a dillad â llewys hir.  

PestSmart Illustration BLUE BG RGB.jpg

2. Gallai plaladdwyr effeithio ar ddŵr a’r amgylchedd

Gall plaladdwyr fynd i mewn i'r amgylchedd a'n cyrsiau dŵr drwy lawer o ffyrdd, er enghraifft pan fyddan nhw’n cael eu gorddefnyddio neu eu defnyddio yn y tywydd anghywir, neu os yw'ch ci yn mynd i badlo mewn dŵr wrth wisgo coler atal chwain. Bydd peidio â dilyn y cyfarwyddiadau cywir yn golygu bod plaladdwyr yn gallu cyrraedd ein cyrsiau dŵr. Gallai hyn olygu bod yn rhaid i Dŵr Cymru ddefnyddio rhagor o gemegion ac ynni i sicrhau bod eich dŵr yfed yn berffaith.

Mae bob amser yn werth meddwl am eich amgylchedd lleol cyn defnyddio plaladdwyr. Pan fyddwn yn eu defnyddio'n synhwyrol ac yn lleihau ein defnydd ohonyn nhw, mae'n lleihau'r risg o niweidio'r amgylchedd. Er lles pawb.

 
23.03.21.mh Welsh Water Garden Shoot 122.JPG

3. Gall plaladdwyr niweidio’ch gardd

Nid pob plaladdwr fydd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng chwyn digroeso a’ch hoff blanhigyn trilliw ar ddeg. Felly, os byddwch chi’n chwistrellu chwynladdwr heb dargedu’r ardal sy’n achosi problem, gallech niweidio planhigion eraill, neu hyd yn oed beillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw, yn y broses.

Cofiwch, mae’n bwysig sicrhau cydbwysedd iach yn ecosystem eich gardd, gall hyd yn oed yr ardd daclusaf roi lle i ychydig o chwyn yma ac acw.  

Watering Can_Pesticide Rectangle AW.jpg

4. Gall plaladdwyr achosi niwed i anifeiliaid anwes 

Fydd anifeiliaid anwes ddim yn gwybod pa ardaloedd rydych chi wedi’u trin â phlaladdwyr, yn enwedig os oes gan y glaswellt smotiau o chwynladdwr arno, felly maen nhw mewn mwy o berygl. Er mwyn osgoi’r posibilrwydd y byddan nhw’n bwyta chwyn sydd wedi’i drin neu’n llyfu cemegion oddi ar eu blew pan fyddan nhw wedi dod i gyswllt â’r plaladdwyr, mae’n syniad da cadw’ch anifeiliaid i ffwrdd am gyfnod fel sydd wedi’i nodi ar y label. Wedi’r cyfan, y peth olaf rydych chi am ddigwydd yw gorfod mynd â’ch anifail anwes at y milfeddyg.

Felly, beth sydd angen i chi ei gofio?

Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus. Bydd defnyddio’r plaladdwyr yn ofalus cyn eu storio a’u gwaredu’n iawn yn ein helpu ni i warchod ein teuluoedd, ein bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Previous
Previous

Pam y dylech ystyried rhoi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr –Cyflwyno ‘Addewid Dim Plaladdwyr’ Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Next
Next

Sut i waredu plaladdwyr yn gywir