Pam y dylech ystyried rhoi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr –Cyflwyno ‘Addewid Dim Plaladdwyr’ Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Y mis yma, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn lansio’u haddewid dim plaladdwyr, gan annog cymunedau ledled y wlad i roi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr a gwneud eu rhan i helpu i warchod natur Cymru.

Mae’r elusen, sy’n ceisio cefnogi Cymru wyllt a mwy cyfoethog o ran ei byd natur, yn dweud y gall pawb, drwy rai camau bach, helpu i achub planhigion ac anifeiliaid a chreu dyfodol mwy gwyrdd ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Yma, rydyn ni’n sgwrsio ag Andy Charles-O’Callaghan, Swyddog Ymgyrchoedd yr Ymddiriedolaethau Natur, i ddarganfod mwy am yr addewid a sut gallwch chi helpu.

Pam lansiwyd yr ymgyrch yma?

Er y gall plaladdwyr gynnig ateb cyflym i ddelio â phlâu, gallan nhw achosi niwed aruthrol i bobl, anifeiliaid anwes a natur. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio plaladdwyr i reoli pryfed, gwlithod, a thrychfilod eraill yn eu gerddi. Mae pob plaladdwr yn wenwynig, wrth gwrs, hyd yn oed i rywogaethau nad ydyn nhw’n cael eu targedu, ond er gwaethaf hyn, maen nhw’n dal i fod ar gael yn eang i'w prynu. Gyda hyn mewn cof, rydyn ni’n credu bod gan bawb ran i'w chwarae i fod yn rhan o'r datrysiad.

Mae rhai yn wenwynig iawn, fel Neonicotinoidau, sy’n gallu lladd pryfed da fel gwenyn a gloÿnnod byw, gan effeithio ar ecosystem unigryw eich gardd. Mae un llwy de (5g) yn ddigon o ddos i ladd 1.25 BILIWN o wenyn mêl – mae hynny’n ddigon o wenyn marw i lenwi pedair lori hir! Mae gan rai plaladdwyr briodweddau carsinogenaidd hefyd.

Efallai na fydd llawer o bobl yn sylweddoli'r bygythiad a ddaw hefyd o driniaethau argroenol ar gyfer chwain eu hanifeiliaid anwes. Gall rhain gael eu golchi i ffwrdd, gan gyrraedd nentydd ac afonydd gyda chanlyniadau trychinebus oherwydd, unwaith y byddan nhw’n cyrraedd ein dyfrffyrdd, maen nhw’n effeithio ar blanhigion a phryfed dyfrol, gan halogi ein ffynonellau dŵr.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi nodi lefelau cynyddol o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad oedden nhw i’w gweld o’r blaen. Er nad yw’r lefelau yma’n ddigon uchel i effeithio ar y dŵr yfed sy’n dod o’n tapiau, maen nhw’n ddigon i dorri safonau dŵr yfed llym ac yn golygu defnyddio rhagor o gemegion ac ynni i drin dŵr i gwsmeriaid.

Beth yw’r addewid?

Drwy wneud rhai newidiadau bach, gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd lofnodi ein haddewid dim plaladdwyr – i roi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr a all niweidio bywyd gwyllt. Nid yw manteision defnyddio plaladdwyr yn drech na'r risgiau, ac mae digonedd o ffyrdd eraill y gallwch reoli plâu.

Ewch i wefan Ymddiriedolaethau Natur Cymru i ddarganfod mwy ac i lofnodi’r addewid.

Sut galla i wneud y newidiadau yma?

Drwy lofnodi’r addewid, rydych chi’n cytuno i’r canlynol:

1.     Rhoi'r gorau i ddefnyddio plaladdwyr yn eich gardd – Mae digon o atebion naturiol i reoli plâu y gallwch roi cynnig arnyn nhw, fel chwistrellau halen, finegr a garlleg cartref, a dulliau atal fel croen oren, plisgyn wy a thrapiau cwrw. Mae defnyddio arferion garddio strategol fel cyd-blannu hefyd yn ffordd dda o gadw plâu o’ch gardd ac yn llawn amrywiaeth o berlysiau a blodau persawrus. Bydd ein peillwyr yn hoffi hyn hefyd!

2.     Byddwch yn ofalus gyda thriniaethau chwain – Gall y cemegion mewn triniaethau chwain fynd i afonydd yn hawdd, boed hynny drwy anifeiliaid anwes yn nofio yn y dŵr, mynd â nhw am dro yn y glaw, neu olchi eu gwelyau ar ôl triniaeth chwain. Cafodd Fipronil ac Imidacloprid, sef y cynhwysion gweithredol mewn triniaethau lladd chwain, eu gwahardd rhag cael eu defnyddio gan y diwydiant amaeth yn 2017 a 2018 oherwydd effaith wenwynig y cemegion ar wenyn a phryfaid eraill. Er gwaethaf hyn, maen nhw’n cael eu defnyddio’n rheolaidd yn ein cartrefi ar anifeiliaid anwes, ac yn ôl un astudiaeth a gynhaliwyd rhwng 2016 a 2018 roedd y cemegion yma’n bresennol mewn 98% o’r afonydd a brofwyd.

Mae llawer o berchnogion anifeiliaid anwes yn dewis rhoi triniaethau chwain yn fisol i atal pla, ond mae'r driniaeth chwain arferol yma’n aml yn ddiangen a gallai achosi niwed sylweddol i afonydd, nentydd a bywyd gwyllt dyfrol, sy'n bwysig ar gyfer ecosystem iach, ffyniannus a chynaliadwy. Gall coleri chwain achosi risgiau tebyg os yw anifeiliaid anwes yn eu gwisgo mewn dŵr. Ceisiwch ddefnyddio dulliau eraill i atal chwain fel finegr seidr afal, olew coed neem (byddwch yn ofalus gyda chathod oherwydd gall rhai fod yn sensitif iddo), olew cnau coco, a siampŵ gwrth chwain naturiol ar gyfer anifeiliaid anwes sy’n aml â phersawr fel rhosmari a mintys poeth sy'n atal chwain. Ar gyfer anifeiliaid anwes sydd â chwain, mae amrywiaeth o ddulliau naturiol y gallwch roi cynnig arnyn nhw. Os ydych chi am ddefnyddio triniaethau chwain, dylech ond eu defnyddio os oes gan eich anifail anwes chwain, yn hytrach na fel mesur ataliol, a byddwch yn ofalus ar ôl rhoi’r driniaeth – peidiwch â mynd â’ch anifail anwes am dro yn y glaw na mynd i nofio, a dylech osgoi golchi gwelyau anifeiliaid anwes yn y peiriant golchi neu mewn bath am o leiaf 14 diwrnod.

3.     Rhannwch y neges yma i helpu pawb i gymryd rhan – Mae gan un person botensial i ddylanwadu ar lawer o bobl. Rydyn ni’n annog pawb i ddarllen am beryglon plaladdwyr, ystyried dulliau naturiol o reoli plâu yn eu gerddi eu hunain, a rhannu beth rydych chi wedi’i ddysgu gydag eraill. Siaradwch â'ch teulu a'ch ffrindiau i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol eu hunain. Dyma sut gallwn ni anrhydeddu'r Addewid Dim Plaladdwyr i wella ein hunain ac amddiffyn natur.

Beth os oes gen i blaladdwyr gartref yn barod?

Os oes gennych blaladdwyr heb eu defnyddio neu dros ben gartref, mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut i storio a gwaredu’r rhain yn gywir er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. PEIDIWCH BYTH ag arllwys plaladdwyr i lawr y draen, y sinciau, y toiled, nac mewn ffosydd – gwaredwch nhw’n gyfrifol drwy ganolfan wastraff eich awdurdod lleol. I ddysgu rhagor am arferion gorau wrth storio a gwaredu plaladdwyr, darllenwch ganllawiau defnyddiol PestSmart ar storio ac gwaredu.

 
Next
Next

Pa risgiau sy’n gysylltiedig â phlaladdwyr?